Heddiw bydd Cymru'n cymryd y cam nesaf tuag at ddiogelu hawliau plant drwy gyflwyno deddfwriaeth i roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol.
Heddiw, cyflwynodd Llywodraeth Cymru (25 Mawrth) y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
Os caiff y Bil ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ni fydd rhieni ac oedolion eraill sy'n gweithredu fel rhieni yn gallu cosbi plant yn gorfforol mwyach - bydd gan blant yr un amddiffyniad rhag cosb gorfforol ag oedolion.
Bydd y Bil yn gwneud hyn drwy ddiddymu'r amddiffyniad yn y gyfraith gyffredin ar gyfer cosb resymol fel na all unrhyw oedolyn sy'n gweithredu yn lle rhiant ei ddefnyddio fel amddiffyniad os caiff ei gyhuddo o ymosod neu guro plentyn - golyga hyn na allant mwyach gosbi plentyn yn gorfforol yn ôl y gyfraith.
Mae hyn yn seiliedig ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau plant o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan said:
"Rydyn ni'n anfon neges glir nad yw cosbi plant yn gorfforol yn dderbyniol yng Nghymru.
"Nid yw'r hyn oedd yn cael ei ystyried yn dderbyniol yn y gorffennol yn dderbyniol mwyach. Rhaid i'n plant ni deimlo eu bod yn ddiogel a'u bod yn cael eu trin ag urddas.
Caiff y ddeddfwriaeth ei hategu gan ymgyrch codi ymwybyddiaeth a chymorth i rieni. Y nod yw helpu i ddiddymu'r defnydd a wneir o gosbi plant yn gorfforol yng Nghymru a'r goddefgarwch sydd i hynny.
Awgryma ymchwil a gyhoeddwyd y llynedd fod agweddau tuag at gosbi plant yn gorfforol yn newid. Yn ôl yr ymchwil, roedd 81% o rieni yn anghytuno bod angen smacio plentyn drwg weithiau - cynnydd sylweddol o 71% yn 2015.
Yn ôl yr arolwg Agweddau Rhieni tuag at Reoli Ymddygiad Plant Ifanc 2017 dim ond 11% o rieni plant bach a nododd eu bod wedi smacio eu plant yn ystod y chwe mis diwethaf fel ffordd o reoli eu hymddygiad, hanner y ffigwr yn 2015 sef 22%.
Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog:
"Mae mwy na 50 o wledydd ar draws y byd wedi ymateb i'r alwad ryngwladol i roi terfyn at gosbi plant yn gorfforol.
"Fel un o'r gwledydd mwyaf blaengar yn y pryd o safbwynt hyrwyddo hawliau plant, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru yn deddfu i roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol yng Nghymru, gan hyrwyddo ymhellach hawliau plant.
"Wrth i'r gymuned ryngwladol nodi 30 mlynedd ers cyflwyno Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn eleni, mae'n briodol fod Cymru yn cymryd y cam sylweddol hwn i fynegi ymrwymiad ein gwlad i ddiogelu hawliau plant.
Mae'r Bil yn rhan o becyn llawer ehangach o gymorth i blant a'u rhieni. Mae hyn yn cynnwys:
- yr ymgyrch Magu Plant: Rhowch amser iddo sydd â'r nod o helpu rhieni i wneud eu gorau drwy roi awgrymiadau a gwybodaeth bositif am fagu plant
- amrywiaeth o wasanaethau sy'n hyrwyddo rhianta cadarnhaol gan y GIG, gwasanaethau addysg, gwasanaethau cymdeithasol, Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a'r trydydd sector.
Wrth groesawu'r cyhoeddiad, dywedodd yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:
"Does dim byd rhesymol am gosbi plentyn yn gorfforol. Mae'r Bil hwn yn anfon neges glir bod Cymru'n wlad sy'n amddiffyn plant; Gwlad a fydd yn rhoi'r un amddiffyniad i blant rhag cosb gorfforol ag oedolion; Gwlad sy'n hyrwyddo hawliau plant.
Mae'r datblygiad cadarnhaol hwn yn ymwneud â dileu bwlch cyfreithiol i adlewyrchu'r hyn y mae'r mwyafrif llethol o rieni yn ei gredu: nad yw cosbi plentyn yn gorfforol yn dderbyniol bellach, yn unrhyw le.