Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Byddwn yn lansio ymgyrch ymwybyddiaeth wythnos yma fydd yn tynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael i bobl i'w helpu i dalu eu biliau treth gyngor. Mae hyn yn dilyn ymgyrch lwyddiannus y llynedd.
Efallai y bydd gan ddeiliaid tai hawl i dalu llai o dreth gyngor os ydynt:
• Yn byw ar incwm isel
• Yn byw wrth eu hunain, neu gyda phobl neu blant nad ydynt yn talu treth gyngor;
• Yn fyfyriwr;
• Yn anabl;
• Yn ofalwr;
• Â nam meddyliol
Rwy’n annog pawb i edrych ar ein gwefan i weld os ydynt yn gymwys i help i dalu eu treth gyngor. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno ag awdurdodau lleol, MoneySavingExpert.com a sefydliadau'r trydydd sector i ddatblygu cyngor syml a chyson i sicrhau bod gan bob cartref yng Nghymru yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt am eu hawl i gael cymorth gyda’r dreth gyngor.
Mae gwirydd cymhwyster syml ar gael yn https://beta.llyw.cymru/talu-llai-o-dreth-gyngor. Mae'r wefan yn cynnwys dolenni at bob awdurdod lleol, gan alluogi preswylwyr i gysylltu â'u cyngor ar ôl iddynt gwblhau'r gwirydd cymhwyster.
Rydym wedi gweithio'n galed i sicrhau bod aelwydydd sy'n agored i niwed yng Nghymru yn parhau i gael cymorth treth gyngor fel rhan o'n Cynllun Gostyngiad Treth Cyngor, ac rydym am sicrhau bod yr holl ddeiliaid tai cymwys yn cael gostyngiadau ac eithriadau y mae ganddynt hawl iddo.
Rydym yn parhau i wneud cynnydd gyda’r rhaglen waith helaeth i weld sut y gallwn wella'r system dreth gyngor dros y tymor byr, canolig a hir i gyflawni ar ein hymrwymiad i wneud treth cyngor yn decach.
Fe wnaethom osod rheoliadau yn y Cynulliad Cenedlaethol ar 14 Chwefror i ddileu cosb o garchar am beidio â thalu treth gyngor. Gosodwyd rheoliadau hefyd ar 6 Mawrth i eithrio'r rhai sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth gyngor hyd at 25 oed. Daw'r gwelliannau hyn i rym ar 1 Ebrill.
Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda CLlLC, cynrychiolwyr awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector i gymryd ymagwedd sy'n canolbwyntio mwy ar y dinesydd wrth edrych ar ddyledion, ôl-ddyledion a gorfodaeth. Rhan allweddol o'r gwaith hwn fu datblygu Protocol Treth Cyngor Cymru- Arfer Dda wrth Gasglu Treth y Cyngor.
Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda CLlLC, awdurdodau lleol ac MoneySavingExpert.com ar ddull cyson o wneud ceisiadau am ostyngiadau ac eithriadau i bobl sydd â ‘nam meddyliol difrifol’. Rydym yn gweithio gyda CLlLC i sicrhau bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn mabwysiadu ac yn gweithredu'r protocol a'r dull diwygiedig ar gyfer hawlio cymorth i’r rhai a nam meddyliol o 1 Ebrill.
Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau partner i nodi mathau eraill o arfer da mewn perthynas â chasglu treth gyngor ac i sicrhau bod dulliau mwy cyson sy’n canolbwyntio ar y dinesydd yn cael eu hymgorffori mewn arfer cyffredin. Mae'r gwaith hwn yn cael ei gefnogi gan gynllun peilot rhannu data a gynlluniwyd i ganfod a oes ffyrdd arloesol o nodi aelwydydd a allai fod â hawl i gael cymorth ond nad ydynt yn ei dderbyn.
Mae’r cynllun Gwaith Polisi Treth 2018 yn nodi ein bwriad i adolygu effaith a defnydd awdurdodau lleol o’r pwerau dewisol gymhwyso premiymau treth gyngor, ac yn edrych i weld a yw'r ddeddfwriaeth newydd a gyflwynwyd yn 2016 yn gweithio fel y bwriadwyd. Cyflwynwyd y pwerau dewisol hyn gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 i gynorthwyo awdurdodau lleol i fynd i'r afael â materion yn eu cyflenwad tai lleol, er enghraifft i awdurdodau eu defnyddio ochr yn ochr â'u pwerau eraill i ailddefnyddio cartrefi gwag.
Mae'r adolygiad hefyd yn edrych ar y rhyngweithio rhwng systemau’r dreth gyngor ac ardrethi annomestig ac effaith cau'r bwlch a oedd yn bodoli cyn 2010 mewn perthynas â'r diffiniad o ail gartrefi a llety hunanarlwyo.
Rydym wedi gofyn am amrywiaeth o wybodaeth gan awdurdodau lleol i lywio'r adolygiad, gan gynnwys eu hasesiadau o effaith leol cyflwyno premiymau lleol a wnaethant cyn penderfynu rhoi premiwm ar waith ai peidio. Byddwn yn dadansoddi hyn ynghyd â gwybodaeth gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sy’n annibynnol, ac ystadegau swyddogol Llywodraeth Cymru.
Bydd yr adolygiad hefyd yn ceisio nodi a oes unrhyw dystiolaeth nad yw anheddau'n cael eu cofnodi'n briodol at ddibenion treth gyngor neu ardrethi annomestig.
Mae yna gorff sylweddol o ymchwil i sut y dylid cyllido gwasanaethau lleol yng Nghymru, yng ngweddill y DU, ac yn rhyngwladol. Mae llawer o'r drafodaeth wedi canolbwyntio ar drethi lleol a'i ddiben allweddol fel ffordd o godi refeniw, ond mae yna beth diddordeb i ba raddau y gellid defnyddio trethi lleol fel cyfrwng i gwrdd â nodau economaidd a chymdeithasol amrywiol.
Gan adeiladu ar y dystiolaeth sydd ar gael, rydym yn comisiynu ymchwil i lywio ein cynlluniau tymor canolig.
Bydd arbenigwyr allanol yn ymgymryd ag ymchwil i effaith Credyd Cynhwysol (CC) ar Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ac ôl-ddyledion rhent yng Nghymru. Ni all fod yn iawn i benderfyniadau a wneir gan Llywodraeth y DU ynghylch budd-daliadau lles gael effaith ar drethi lleol yng Nghymru, maes cyfrifoldeb sydd wedi'i ddatganoli ers 1999. Ond, o ganlyniad i’r ffordd bod y meini prawf cymhwyster ar gyfer budd-daliadau nawdd cymdeithasol y DU yn effeithio ar hawl i ystod o systemau cefnogi eraill, rydym yn dechrau gweld effaith andwyol ar draws Cymru wrth i CC gael ei gyflwyno. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2020.
Bydd y canfyddiadau'n llywio ein datblygiad o Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar gyfer 2020-21 a thu hwnt i sicrhau bod cartrefi CC a chartrefi di-CC yn cael eu trin yn gyfartal. Byddwn hefyd yn defnyddio'r canfyddiadau i ystyried a oes angen diwygio mwy sylfaenol o'r cynllun yn y tymor canolig i liniaru effaith diwygio lles a helpu gwneud y dreth gyngor yn decach ac yn fwy blaengar.
Heb ymarfer ailbrisio i ailasesu pob un o’r 1.4 miliwn o eiddo domestig yng Nghymru, cyfyngedig yw ein gallu i wneud newidiadau sylfaenol i treth gyngor a fyddai'n gwneud y system yn decach - er enghraifft, drwy ychwanegu bandiau i gynyddu blaengarwch a moderneiddio'r trothwyon i adlewyrchu amodau’r farchnad gyfredol.
Rydym wedi comisiynu asesiad manwl o effaith y gall ymarfer ailbrisio ei chael ar sail treth eiddo domestig Cymru pe bai un i'w gynnal. Bydd hyn yn cynnwys cyfres o ymarferion ystadegol annibynnol gan gymryd i ystyriaeth y wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael ar werthoedd y farchnad, trafodion a newidiadau ffisegol i eiddo. Disgwyliwn i ganfyddiadau'r ymarfer hwn fod ar gael yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn edrych ar ddulliau amgen o drethu lleol. Dros 2018, cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiadau o dystiolaeth a thrafodaethau gyda'i banel arbenigol ynghylch opsiynau megis trethi gwerth tir, trethi incwm lleol a fersiynau modern o'r trethi presennol yn seiliedig ar eiddo. Mae'r panel yn manteisio ar arbenigedd gan economegwyr, arbenigwyr prisio, data ac ystadegau, swyddogion llywodraeth leol, arbenigwyr mewn gwasanaethau cyhoeddus a'r rheini sy’n cynrychioli safbwynt trethdalwyr, tegwch a chydraddoldeb.
Eleni, byddem yn edrych ar yr opsiynau ar gyfer dulliau amgen o sail treth lleol Cymru, ac archwilio'r rhwystrau penodol i symud o'r gyfundrefn dreth leol gyfredol tuag at ddulliau eraill yn y dyfodol. Bydd canfyddiadau'r gwaith hwn yn cael eu crynhoi yn 2020.
Bydd cyfleoedd i drethdalwyr a rhanddeiliaid roi sylwadau ar y syniadau hyn wrth iddynt ddatblygu yn y dyfodol a byddaf yn hysbysu'r Aelodau wrth i'r gwaith fynd rhagddo .