Heddiw bydd y Gweinidog Brexit Jeremy Miles yn galw ar Lywodraeth y DU i newid ei chynlluniau ar gyfer mewnfudo wedi i adroddiad annibynnol ddatgelu yr effaith ar economi Cymru.
Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru edrych ar sut y bydd cynlluniau Whitehall - a gyhoeddwyd mewn Papur Gwyn yn ddiweddar, i newid y system fewnfudo unwaith y mae'r DU yn gadael yr UE - yn cael effaith ar Gymru.
Roedd hyn yn cynnwys edrych ar effaith rhwystro gweithwyr tramor rhag aros yn y DU am fwy na blwyddyn os ydynt yn ennill llai na £30,000.
Roedd prif ganfyddiadau'r adroddiad, a gynhaliwyd mewn cydweithrediad ag arbenigwyr o Goleg Kings Llundain a Phrifysgol Oxford, yn cynnwys:
- Mae cynigion y Papur Gwyn yn debygol o leihau yn sylweddol y mewnfudo o'r UE i'r DU i'r rhai ar gyflog isel, a lleihau y mewnfudo canolig a'r rhai sydd ar dâl uwch, er y bydd llai o effaith ar hynny.
- Bydd mwy o effaith ar Gymru na'r DU yn gyffredinol oherwydd y toriad yn nifer y bobl fydd yn mewnfudo ar gyfer gwaith, ond rhagamcannir y bydd yr effaith gyffredinol ar economi Cymru yn llai nag ar economi y DU.
- Amcangyfrifir y byddai effaith o rhwng 1% a 1.5% ar y cynnyrch domestig gros yng Nghymru dros 10 mlynedd, o gymharu â rhwng 1.5% a 2% ar gyfer y DU yn gyffredinol. Byddai'r polisi hefyd yn lleihau'r cynnyrch domestig gros fesul pen o'r boblogaeth.
- Byddai gosod uchafswm cyflog llai na £30,000 yn lliniaru yr effaith i raddau - amcangyfrifir y byddai trothwy o £20,000 yn arwain at leihad o rhwng 0.8% a 1.2% dros 10 mlynedd.
- Y sectorau yr effeithir arnynt fwyaf gan y newidiadau arfaethedig ar draws pob lefel sgiliau yw gweithgynhyrchu, addysg, gofal cymdeithasol a iechyd.
- Mae proffil y sectorau manwl a'r galwedigaethau y mae disgwyl gweld effaith arnynt yng Nghymru yn debygol o fod yn weddol debyg i'r DU yn gyffredinol.
Ychwanegodd Jeremy Miles:
"Mae'r adroddiad hwn yn cadarnhau unwaith eto ein pryderon na fydd cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer mewnfudo yn gwneud dim i helpu cyflogwyr ac yn cael effaith ar economi Cymru. Bydd cynlluniau'r llywodraeth yn cael effaith wirioneddol ar y sector preifat a chyhoeddus.
"Bydd nyrsus, meddygon iau, milfeddygon ac amrywiol weithwyr sydd eu hangen ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus a'n diwydiant yn ei chael yn llawer anoddach ac yn llai atyniadol i ddod i Gymru o dan y cynigion hyn. Dylai'r system fewnfudo helpu ein heconomi a'n pobl, yn hytrach na'i mygu a chyfyngu ar y potensial.
"Rydyn ni am i Lywodraeth y DU gael gwared ar y bygythiad o drothwy cyflog o £30,000 fydd yn gwneud cymaint o niwed i'n heconomi. Rydyn ni angen dull hyblyg, wedi'i reoli tuag at fewnfudo sy'n deg ond ddim yn gwneud niwed di-angen i ffyniant Cymru. Dyna pam rydyn ni wedi pennu cynigion manwl am system fewnfudo ôl-Brexit sy'n cysylltu'n agosach â'n hanghenion cyflogi ac sy'n gweithio er lles buddiannau Cymru."