Heddiw, cyn i Ddatganiad y Gwanwyn gael ei ryddhau, mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, yn galw ar Lywodraeth y DU am dryloywder ac eglurder ynghylch ei phenderfyniadau cyllid.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid:
“Mae heddiw yn gyfle arall i'r Canghellor gadarnhau, unwaith ac am byth, fod y polisi o gyni cyllidol ar ben. Rydyn ni wedi dod drwyddi ac mae naw mlynedd hir o gyni cyllidol y tu ôl inni. Mae'n amser nawr inni gael tystiolaeth glir fod y datganiad hwn yn wir.
“Y mis diwethaf, pwysais ar Brif Ysgrifennydd y Trysorlys am eglurder ynghylch amryw o faterion ariannol yn ymwneud â Brexit, yn arbennig o ystyried ein bod ni'n dal i wynebu'r perygl na fydd yna gytundeb. Mae'n gwbl hanfodol bod Cymru yn ganolog i'r penderfyniadau ac yn gallu paratoi ar gyfer effaith Brexit.
“Rwy'n chwilio am sicrwydd gan y Canghellor y bydd mwy o gyllid yn dod i Gymru os na fydd cytundeb ar gyfer Brexit ac rydw i am ymrwymiad i gynnal deialog ystyrlon rhwng Llywodraeth y DU a'r gwledydd datganoledig ynglŷn â'r heriau hyn.
“Byddaf hefyd yn gofyn i'r Canghellor ddefnyddio Datganiad y Gwanwyn fel cyfle i roi mwy o fanylion am yr adolygiad o wariant sydd ar fin cael ei gynnal.”