Bob blwyddyn mae dros 250 o gleifion yn marw wrth aros am drawsblaniad aren.
Ar ddechrau wythnos sy'n canolbwyntio ar roddwyr organau byw, bydd Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething, heddiw'n hyrwyddo'r neges y gall rhoddwyr byw helpu i achub bywydau pobl eraill.
Bob blwyddyn mae dros 250 o gleifion yn marw wrth aros am drawsblaniad aren. Nid oes digon o arennau ar gael drwy roddwyr sydd wedi marw i fodloni anghenion bawb sydd angen trawsblaniad. Ar gyfartaledd rhaid aros tua dwy flynedd i gael trawsblaniad aren gan rywun sydd wedi marw, ac mewn rhai achosion prin, mae rhai cleifion yn aros dros bum mlynedd.
Arennau yw'r organ fwyaf cyffredin sy'n cael eu rhoi gan bobl fyw, ond byddai’n bosibl iddynt hefyd roi organau eraill, gan gynnwys rhan o afu/iau, darn o ysgyfaint, neu ran o'r coluddyn bach. Mae cael trawsblaniad roddwr byw addas yn sicrhau'r canlyniadau gorau i'r derbynnydd.
Gall bywyd rhywun gael ei drawsnewid gan roddwr byw, gan y gallai hynny leihau'r amser aros, osgoi dialysis a gwella ansawdd a hyd ei fywyd. Mae gennym ddwy aren, a gall person iach fyw bywyd cwbl normal â dim ond un aren yn gweithio.
Mae'r ffocws ar roddwyr byw yn cyd-ddigwydd â Diwrnod Arennau'r Byd a gynhelir ddydd Iau 14 Mawrth, ac mae'n tynnu sylw at sut y gall gweithred hael ac anhunanol rhoddwr byw wella bywyd person arall.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:
"Mae rhoddwyr byw yn helpu i achub a thrawsnewid bywydau, drwy roi'r cyfle i fwy o gleifion sy'n dioddef methiant yr arennau, a chlefydau eraill, gael trawsblaniad llwyddiannus.
"Yma yng Nghymru, rydyn ni'n arwain y ffordd o ran cael cydsyniad i roi organau wedi i'r rhoddwr farw, ond tra bo pobl yn marw wrth aros am drawsblaniad, rhaid i ni weithio'n galetach i godi ymwybyddiaeth am y posibilrwydd y gall rhoddwyr byw hefyd roi eu horganau.
“Yn aml bydd rhoddwr byw yn berthynas agos neu'n ffrind, ond does dim rheswm pam na allwch roi i rywun nad ydych yn ei adnabod. Hoffwn annog pobl ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig i ystyried bod yn rhoddwr byw - mae'n benderfyniad a allai drawsnewid bywyd rhywun arall.”