Heddiw cyhoeddodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit Jeremy Miles fod £2.3m o gyllid yr UE ar gael drwy’r rhaglen newydd Datblygu Cydnerthedd, Ffyniant a Lles.
Bydd y cyllid yn helpu busnesau bach a chanolig eu maint yn eu gwaith o ofalu am les eu staff, helpu pobl sydd â chyflyrau iechyd sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio, a helpu pobl sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod o absenoldeb.
Mae gan naw o bob deg o fusnesau Rhondda Cynon Taf lai na 10 o weithwyr cyflogedig, ac nid oes gan lawer ohonynt swyddogion adnoddau dynol proffesiynol i lunio polisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i helpu gweithwyr sydd â chyflyrau sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio.
Bydd y cyllid hwn yn helpu’r Cyngor i gefnogi busnesau ac i sicrhau bod pawb sy’n cael ei gyflogi yn ardal yr awdurdod lleol yn gallu cael gafael ar yr un math o wasanaethau cymorth yn y gwaith, sy’n canolbwyntio’n arbennig ar eu hanghenion iechyd a lles.
Dywedodd Jeremy Miles:
“Rwy’n falch iawn fod cyllid yr UE yn dal i gael ei ddefnyddio i fuddsoddi er mwyn cryfhau ein busnesau a helpu i hybu lles ein gweithlu dawnus. Mae Cymru wedi elwa’n fawr ar raglenni cyllid yr UE ers 20 mlynedd ac mae’n bwysig iawn bod Llywodraeth y DU yn cadw at yr addewidion a gafodd eu gwneud yn y Refferendwm y bydd cyllid llawn yn lle’r hyn fydd yn dod i ben pan fydd y DU yn ymadael â’r UE.”
Dywedodd y Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Rhondda Cynon Taf:
“Ers 2012 rydyn ni wedi llwyddo i wneud llawer iawn i helpu pobl ddi-waith i gael swyddi. Gan adeiladu ar y momentwm hwn, gallwn fynd ati nawr i wella profiad y rhai sy’n gweithio, gan ganolbwyntio ar iechyd a lles staff, absenoldeb a chadw staff, a helpu pobl i reoli eu cyflyrau iechyd hirdymor tra byddant yn cael eu cyflogi.
“Mae hwn yn gyhoeddiad i’w groesawu a bydd ein prosiectau o dan Datblygu Cydnerthedd, Ffyniant a Lles yn defnyddio’r cyllid yn llawn i sicrhau’r budd pennaf i weithwyr a chyflogwyr yn Rhondda Cynon Taf."
Yn ystod y ddegawd ddiwethaf, mae prosiectau a gafodd eu hariannu gan yr UE wedi creu 45,000 o swyddi newydd a 13,000 o fusnesau newydd drwy Gymru, a hefyd wedi helpu mwy nag 85,000 o bobl i gael swyddi.