Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n bosibl y caiff ysgolion ddiwrnod HMS ychwanegol bob blwyddyn dros y tair blynedd nesaf o dan gynlluniau a gyhoeddwyd heddiw gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Byddai'r diwrnod HMS hwn yn benodol at ddibenion Dysgu Proffesiynol i gefnogi athrawon i gyflwyno'r cwricwlwm newydd - a gaiff ei roi ar waith o 2022.

Mae cyfnod ymgynghori ynghylch y cynnig yn dechrau heddiw.

Mae'r Gweinidog Addysg hefyd wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf heddiw ar yr ystyriaeth a roddwyd i argymhellion adroddiad 'Addysgu: Proffesiwn Gwerthfawr' gan y Panel Annibynnol a arweiniwyd gan yr Athro Mick Waters.

Ynghyd â'r diwrnod HMS ychwanegol, cadarnhaodd y Gweinidog Addysg fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi gweithredu ar rai argymhellion yn adroddiad yr Athro Waters, ee sefydlu Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol i Gymru.

Caiff argymhellion tymor hirach mewn perthynas â chyflog ac amodau athrawon eu trafod gydag undebau'r gweithlu addysg a chyflogwyr, ac wedyn cânt eu hystyried yn fanwl gan y Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol newydd yng Nghymru.

Bydd Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol yn ystyried yn benodol argymhellion yr Athro Waters mewn perthynas â materion arweinyddiaeth.
Dywedodd Kirsty Williams:

“Mae diwrnod HMS ychwanegol yn dangos ein bod o ddifrif am roi'r amser a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar ein hathrawon i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd.

"Ynghyd â'r diwrnodau HMS sydd eisoes yn digwydd a'r £24miliwn dwi eisoes wedi'i gyhoeddi ar gyfer y Dull Cenedlaethol o Ddysgu Proffesiynol, mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn y proffesiwn addysgu.

"Roedd ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros gyflog ac amodau athrawon yn gam anhygoel o bwysig ymlaen i'n gwlad a'n system addysg. Mae hefyd yn gyfle aruthrol.

"Ar ôl ystyried cynigion yr Athro Waters yn fanwl, dwi wedi penderfynu bod yna nifer o gamau byrdymor a hirdymor y gallwn eu cymryd i gefnogi a chryfhau'r proffesiwn addysgu.

"Yn y tymor hirach, bydd y Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol yn ein helpu i greu system gyflogau ac amodau sy'n cefnogi cynnydd, tegwch a rhagoriaeth ac yn golygu mai Cymru yw'r wlad orau yn y DU i ddilyn gyrfa addysgu."