Mae gan bobl Cymru hyd at ddydd Gwener, 30ain o Dachwedd i enwebu athrawon a gweithwyr ieuenctid arbennig sy’n gweithio mewn ysgolion ar draws Cymru ar gyfer Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru 2019
Bydd y cynllun, sy’n cael ei redeg gan brifysgolion, yn cael ei gyllido’n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru, a bydd yn talu ffioedd myfyrwyr. Bydd cyrsiau ar gael yn y sectorau hynny a nodir gan Lywodraeth Cymru fel rhai sy’n allweddol i dwf economaidd, gan gynnwys TG, Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch.
Yn y flwyddyn academaidd 2019-20, mae’r pynciau’n cynnwys Peirianneg Meddalwedd, Seiberddiogelwch a Dadansoddi Data. Mae rhagor o gyrsiau yn cael eu datblygu hefyd.
Mae’r cyrsiau yn cael eu darparu eleni gan Brifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, y Brifysgol Agored, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a Phrifysgol De Cymru.
Rheolir y cyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Mae gradd-brentisiaid yn gweithio drwy gydol eu gradd, gan dreulio’r rhan o’u hamser yn y brifysgol a gweddill yr amser gyda’u cyflogwr, yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn y brifysgol ac yn y gwaith.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:
“Mae’n hanfodol bod gan bob unigolyn y sgiliau a’r wybodaeth gywir i fanteisio ar y cyfleoedd sy’n cael eu cynnig gan farchnad lafur sy’n datblygu’n barhaus. Mae gradd –brentisiaeth yn gweddu’n wych i bobl sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiannau technoleg ond sy’n awyddus i gael gradd, neu’r rheini sy’n newydd i’r gweithlu ond sydd am astudio ar gyfer gradd ar yr un pryd.
“Mae hyn hefyd yn gwella symudedd cymdeithasol ac yn ehangu cyfranogiad – gan ddarparu llwybrau amgen i addysg uwch ar gyfer pobl nad oeddent wedi ystyried na chael y cyfle i fynd i’r brifysgol yn syth ar ôl gadael y coleg.
“Mae gradd-brentisiaeth yn cynnig y manteision hyn i gyd – maent yn dda ar gyfer datblygiad yr unigolyn, yn dda ar gyfer amrywio’r llwybr at broffesiwn ac yn llesol i economi Cymru.”
Dywedodd, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
“Mae’n heconomi fodern, sy’n newid mor gyflym, yn golygu bod rhaid sicrhau a chadw gweithlu medrus iawn. Mae hyn yn hanfodol i’n lles economaidd yn y dyfodol. Yng ngwyneb yr heriau a’r ansicrwydd parhaus yn sgil Brexit, does dim dwywaith bod datblygu gweithlu hyblyg a medrus iawn cyn bwysiced ag erioed. Cynlluniwyd gradd-brentisiaethau i adlewyrchu anghenion cyflogwyr yng Nghymru drwy ddarparu’r wybodaeth a’r sgiliau y maent eu hangen ac yn eu gwerthfawrogi. Byddant yn helpu i gynyddu cynhyrchiant drwy uwchsgilio’r gweithlu presennol a’r gweithlu newydd, a byddant yn cynnig manteision clir i’r cyflogwr a’r gweithiwr.”
Mae Siobhan Stephens yn gwneud gradd-brentisiaeth ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wrth weithio yn Mobilise, cwmni datblygu’r cwmwl digidol yn Abertawe.
Dywedodd Siobhan:
“Roeddwn i wastad yn gwybod mod i eisiau gweithio â chyfrifiaduron. Maent yn bethau tu hwnt o ddifyr a diddorol. TGCh a chyfrifiadureg wnes i fel Safon Uwch ond doeddwn i ddim yn sicr ai’r brifysgol oedd y cam iawn i mi. Roeddwn i eisiau cychwyn gweithio yn syth.
“Rwy’n cael y gorau o’r ddau fyd fel hyn; mae gradd-brentisiaeth yn rhoi pedwar diwrnod i mi gael gweithio yn Mobilise, sy’n rhoi profiad i mi ym maes datblygu meddalwedd, ac yna mae gen i un diwrnod yr wythnos yn y brifysgol i ddysgu’r theori y tu ôl i’r gwaith. Felly, rwy’n gallu gweld y theori ar waith yn MobilIse ac yn gallu cymhwyso fy ngwybodaeth ymarferol i’m hastudiaethau.
“Dim ond blwyddyn yn hirach na gradd gyffredin yw gradd-brentisiaeth. Wedi hynny, bydd gen i gymhwyster cydnabyddedig a phedair blynedd o brofiad yn y diwydiant.”
Dywedodd Barry Liles OBE, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (Sgiliau a Dysgu Gydol Oes):
“Fel darparwr ar gyfer sgiliau ar lefel uchel, rydyn ni’n cydnabod y manteision aruthrol y gall prentisiaethau gradd ddigidol eu cynnig i'n myfyrwyr a'n cyflogwyr. Maent yn amhrisiadwy wrth baratoi myfyrwyr i feithrin y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer diwydiant – gan ddefnyddio cyfuniad o arbenigedd i uwchsgilio'r talentau sy’n dod i’r amlwg ar gyfer cyflogwyr yng Nghymru a thu hwnt. Rydyn ni am sicrhau bod pob myfyriwr sy'n cerdded drwy ein drysau yn gadael â’r sgiliau gofynnol ar gyfer gweddill eu bywyd.”
Gellir cael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael ar wefannau’r prifysgolion.