Mae'r Gweinidog dros Addysg, Kirsty Williams, yn dychwelyd i Goleg Meirion-Dwyfor heddiw ar gyfer y seremoni wobrwyo Codio Cymru.
Nod y gystadleuaeth yw hyrwyddo sgiliau cyfrifiadureg a rhaglennu ymysg pobl ifanc 7-16 oed ar draws Cymru.
Mae disgyblion eleni wedi eu herio i ddefnyddio eu sgiliau codio i greu gêm gyfrifiadurol yn seiliedig ar y thema 'Darganfod ac Antur' i gyd-fynd â 'Flwyddyn Darganfod Cymru' Croeso Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1.3miliwn dros y tymor Cynulliad hwn i helpu i wella sgiliau codio drwy ‘Cracio’r Cod', cynllun sy’n anelu at ehangu clybiau cod ym mhob rhan o Gymru. Maent yn nodi sut y bydd y Llywodraeth yn gweithio ar y cyd gyda chonsortia addysg, busnesau, partneriaid y trydydd sector a phrifysgolion i sicrhau bod mwy o ddysgwyr yn datblygu'r sgiliau hyn cyn y cwricwlwm newydd.
Yn ogystal â hyn, mae Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Abertawe wedi derbyn dros £1.2 miliwn i ddarparu 'Technocamps' gweithdai codio i ddisgyblion ac athrawon mewn ysgolion ledled Cymru. Mae £1.2 miliwn hefyd ar gael i gefnogi prifysgolion Cymru i sefydlu’r Sefydliad Codio, sy'n gynnwys arian i gefnogi gweithgarwch dinesig cenhadaeth mentrau codio mewn ysgolion.
Mae sgiliau technoleg a chodio hefyd yn chwarae rôl bwysig yn strategaeth Llywodraeth Cymru Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr.
Mae’r Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg, a gyhoeddwyd fis Hydref diwethaf, yn nodi uchelgais i gynyddu technoleg Gymraeg, gan gynnwys hyrwyddo'r adnoddau sydd eu hangen i godio ac i ddysgu sut i godio yn y Gymraeg.
Dywedodd Kirsty Williams:
"Mae ein cwricwlwm newydd yn ceisio arfogi plant a phobl ifanc gyda’r wybodaeth a'r sgiliau y mae ei angen ar gyfer swyddi yn y dyfodol, ac mae codio yn chwarae rhan fawr yn hynny.
"Mae codio wedi’i gynnwys yng nghwricwlwm newydd Cymru fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a fydd ar gael ar gyfer adborth y mis nesaf.
"Ond nid ydym yn aros ar gyfer y cwricwlwm newydd. Mae ein buddsoddiad parhaus yn sgiliau digidol a chyfrifiadurol ein pobl ifanc yn sicrhau bod y rheini sydd yn yr ysgol a’r cyfle i ddatblygu sgiliau hanfodol yr 21ain ganrif.
"Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cymryd rhan mewn tyfu Codio Cymru - mae'n galonogol gweld bod yr enwebiadau wedi dyblu ers llynedd. Hoffwn hefyd ddiolch i'n partneriaid Code Club, Technocamps, y Raspberry Pi Foundation ac eraill am y gwaith maen nhw’n ei wneud i hyrwyddo codio a sicrhau bod eu hadnoddau ar gael yn ddwyieithog."
Dywedodd y Gweinidog ar gyfer y Gymraeg, Eluned Morgan:
"Mis Hydref diwethaf cyhoeddais Gynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg. Mae hyn yn nodi'r angen i fanteisio ar y cwricwlwm newydd a'r adnoddau sydd ar gael ar Hwb i ddatblygu sgiliau plant a phobl ifanc mewn llythrennedd digidol, a chreu cynnwys codio a digidol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n wych i weld digwyddiad fel hwn, sy'n dathlu rhagoriaeth codio Cymraeg."
Dywedodd Aled Jones-Griffith, Pennaeth Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai:
"Mae codio ym mhwnc sy’n tyfu ac yn sgìl bwysig ym myd technolegol heddiw. Am nifer o flynyddoedd mae ein campws Pwllheli wedi gweithio'n agos gydag ysgolion yng Ngwynedd i gefnogi addysgu codio ac i bwysleisio pwysigrwydd sgiliau o'r fath ar gyfer plant a phobl ifanc heddiw.
"Nod y gystadleuaeth yw arddangos beth mae pobl ifanc Cymru yn gallu cynnig yn y sector hwn ac i sicrhau bod ei fod yn gadael ysgol a choleg gyda'r sgiliau dymunol a thalentau a fydd yn eu hasedau gwerthfawr mewn unrhyw weithle yn y dyfodol."
Noddir y gystadleuaeth Codio Cymru gan Prifysgol Bangor, Cyngor Gwynedd, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Menter Môn, BT, Carl Kammerling International, Harlech Foodservice Ltd, a GwE.