Yn dilyn llwyddiant presenoldeb Cymru yn Ffair Lyfrau Llundain y llynedd, mae nifer o sefydliadau yn y sectorau cyhoeddi a llenyddiaeth yn edrych ymlaen at gynrychioli Cymru yn nigwyddiad 2019.
Mae Ffair Lyfrau Llundain yn un o'r marchnadoedd byd-eang pwysig ar gyfer cyhoeddi ac mae'n cael ei chynnal yn Olympia, Llundain (12-14 Mawrth).
Mae presenoldeb yn y Ffair yn blatfform i ddangos diwylliant unigryw Cymru i gynulleidfa ryngwladol. Mae'n galluogi ysgrifenwyr, cyfieithwyr a chyhoeddwyr i gyflwyno eu gwaith, lunio cytundebau busnes, meithrin cysylltiadau newydd a rhwydweithio.
Caiff stondin Cymru yn Ffair Lyfrau Llundain ei chydlynu gan saith sefydliad o Gymru sy'n gweithio ar draws y sectorau llenyddiaeth a chyhoeddi (Cyngor y Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, y Cyngor Prydeinig, Llenyddiaeth ar draws Ffiniau, Cyfnewidfa Lên Cymru, Wales PEN Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru).
Mae'r stondin yn arddangos gwaith 14 cyhoeddwr o Gymru, yn ogystal â'n diwylliant cylchgronau dwyieithog ffyniannus. Y cyhoeddwyr sy'n cael eu harddangos ar y stondin yw: Accent; Atebol; Cinnamon; Cyhoeddiadau Barddas; Dref Wen; Firefly; Gomer; Graffeg; Honno; Parthian; Rily; Seren; Gwasg Prifysgol Cymru a'r Lolfa.
I gyd-fynd â Blwyddyn Ieithoedd Brodorol UNESCO eleni, mae stondin Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Publishing Scotland i ddarparu seminar ar ieithoedd brodorol a hunaniaeth yng Nghymru, yr Alban ac Ewrop.
Mae cyfieithu a chyfnewid diwylliant yn themâu allweddol eleni i Gymru. Bydd digwyddiad lansio ar ddiwrnod olaf y Ffair yn arddangos prosiect cyffrous newydd Parthian Books; gyda chymorth grant gan Creative Europe, yn ogystal â chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru, y Cyngor Prydeinig, Cyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth ar draws Ffiniau, mae Parthian yn cyfieithu sawl llyfr i'r Saesneg o ieithoedd Ewropeaidd.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:
"Rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru wedi helpu i sicrhau presenoldeb Cymru yn y ffair lyfrau anrhydeddus hon, ac i barhau i ddatblygu proffil rhyngwladol y cyhoeddwyr. Mae gan Gymru ddigonedd o bethau i'w dathlu, i'w rhannu a'u hyrwyddo yn y ddwy iaith ac nid yw erioed wedi mor bwysig inni godi pontydd diwylliannol, digidol a ffisegol rhwng Cymru a gweddill y byd.”