Neidio i'r prif gynnwy

Mae cwmni gwasanaethau dosbarthu a labelu ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg wedi galluogi i'w labeli a'i artistiaid ffrydio ymhell dros 5 miliwn o weithiau ar blatfformau digidol mawr

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Medi 2018, cafodd PYST Cyfyngedig gyllid gan Lywodraeth Cymru i greu dwy swydd newydd, y gwasanaeth dosbarthu a chynghori digidol pwrpasol cyntaf ar gyfer cerddoriaeth yng Nghymru; mae'n brosiect partneriaeth rhwng tîm y sector Diwydiannau Creadigol ac Is-adran yr Iaith Gymraeg. Mae PYST bellach wedi ffrydio dros 5.2 miliwn o weithiau o'u catalog cerddoriaeth drwy'r platfformau hyn ac eraill, ac mae bellach yn dosbarthu ar gyfer dros 30 o wahanol labeli recordio.

Y ddeuawd  Blŵs Roc o Lanrug, Alffa, oedd nid yn unig y trac cyntaf yn y Gymraeg i ffrydio miliwn o weithiau ar ddechrau Rhagfyr 2018, ond yn fuan iawn roeddent wedi torri eu record eu hunain drwy ffrydio dau filiwn o weithiau cyn diwedd Ionawr 2019. Mae'r trac dan sylw, Gwenwyn, wedi ffrydio dros 2.5 miliwn o weithiau hyd yn hyn.

Mae gwefan PYST bellach yn fyw - www.pyst.cymru (dolen allanol) - Mae'r wefan yn cynnwys newyddion, rhestr o wasanaethau'r cwmni a rhestr chwarae newydd - PYST YN DY GLUST - sy'n cael ei diweddaru'n wythnosol ac yn cynnwys cerddoriaeth newydd yr wythnos honno. Dros yr wythnosau nesaf, mae PYST yn bwriadu cynyddu eu hallbwn ar y cyfryngau digidol, gan gynnwys podlediadau gwreiddiol rheolaidd. Mae datblygiadau newydd digidol a chyfryngol yn cael eu datblygu hefyd.

Meddai yr Arglwydd Elis-Thomas, y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon:

"Waeth beth yw eich chwaeth, cerddoriaeth annibynnol, roc, pync, ffync, gwerin, electronig, hip hop neu fath arall, mae cerddoriaeth wych yn cael ei greu yn yr iaith Gymraeg. Ac yn well byth, ni fu erioed yn haws gwrando arno, diolch i'r bartneriaeth arloesol rhwng Llywodraeth Cymru a PYST.

"Mae PYST hefyd yn cydweithio'n ag os â gwyliau eraill, ac wedi cyhoeddi eu rhestr o berfformwyr ar gyfer llwyfan y "Settler Pass" eleni yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, gan drefnu 3 noson o berfformiadau cyn y digwyddiad. Maent hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau fel y Mentrau Iaith, Yr Urdd, Ymddiriedolaeth Awen, canolfannau lleol a degau o hyrwyddwyr lleol i gydlynu'r gweithgarwch ledled Cymru, ac yn gobeithio cyhoeddi nifer o bartneriaethau mwy cyffrous dros y misoedd nesaf.  Parhewch i wrando!"

Meddai Prif Weithredwr PYST, Alun Llwyd:

"Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi caniatáu inni greu dwy swydd newydd sydd wedi golygu bod gennym lawer mwy o gapasiti i ddechrau gweithio ar yr hyn sydd angen digwydd i helpu i ddatblygu sîn gerddoriaeth hirdymor, gynaliadwy a chymunedol yng Nghymru. Mae yr hyn rydyn ni wedi'i gyflawni hyd yma mewn partneriaeth â labeli, artistiaid, hyrwyddwyr ac eraill yn ddechrau gwych, ond dros y deuddeg mis nesaf mae angen inni wella hyn a dangos y gall bartneriaethau, cyfuno adnoddau a strategaethau - yn ogystal ag arian cyhoeddus, greu sefyllfa newydd i artistiaid a labeli yng Nghymru"