Nid oes angen caniatâd cynllunio fel arfer, cyn belled â bod y gwaith yn waith mewnol ac nad yw'n golygu y bydd yr adeilad yn cael ei wneud yn fwy.
O ran addasu garejys, mae hawliau datblygu a ganiateir wedi cael eu dileu weithiau ar gyfer mathau penodol o eiddo. Dylech gysylltu â'ch awdurdod cynllunio lleol cyn bwrw ymlaen â'r gwaith, ac yn arbennig felly os ydych yn byw ar ddatblygiad tai newydd neu mewn ardal gadwraeth.
Os bwriedir gwneud gwaith ar adeilad rhestredig, efallai y bydd angen caniatâd adeilad rhestredig.
Sylwer: mae’r lwfansau datblygu a ganiateir a ddisgrifir yma’n berthnasol i dai ac nid i fflatiau, maisonettes neu adeiladau eraill. Cliciwch yma i weld cyfarwyddyd ar fflatiau a maisonettes.
Dileu hawliau datblygu a ganiateir
Mae angen ichi wybod a yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu’r hawliau datblygu a ganiateir yn achos eich eiddo. Os yw’r hawliau hynny wedi’i dileu, rhaid ichi gyflwyno cais cynllunio ar gyfer y gwaith.
Mae’n bosibl bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu rhai o’r hawliau datblygu a ganiateir fel un o amodau’r caniatâd cynllunio gwreiddiol ar gyfer eich eiddo. Bydd yr wybodaeth hon ar gael yn y gofrestr gynllunio sy’n cael ei chadw gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae’n bosibl hefyd y bydd hawliau datblygu a ganiateir wedi cael eu dileu drwy gyfrwng cyfarwyddyd 'Erthygl 4'. Mewn ardaloedd cadwraeth yn bennaf y gwelir cyfarwyddydau o’r fath, a hynny oherwydd y gallai gwaith datblygu nad yw’n cael ei reoli fygwth cymeriad ardal. Dylai’ch cyfreithiwr fod wedi rhoi gwybod ichi pan brynoch eich eiddo a oes cyfarwyddyd erthygl 4 arno ai peidio, ond gallwch holi’r Awdurdod Cynllunio Lleol os nad ydych yn siŵr.