Yn y canllaw hwn
8. Rwyf am osod dysgl lloeren ar gyfer fy fflat
Mewn rhai amgylchiadau, bydd angen ichi wneud cais am ganiatâd cynllunio i osod dysgl lloeren ar eich fflat neu'ch maisonette.
Cliciwch yma i ddarllen mwy am ganiatâd cynllunio sy'n ymwneud â dysglau lloeren.
Os ydych yn lesddeiliad, efallai y bydd arnoch angen cael caniatâd eich landlord, eich rhydd-ddeiliad neu'ch cwmni rheoli.
Os yw eich fflat yn adeilad rhestredig, bydd arnoch angen caniatâd adeilad rhestredig, a dylech gysylltu â'ch Awdurdod Cynllunio Lleol i ofyn am gyngor cyn dechrau ar y gwaith. Mae cyflawni gwaith sy'n effeithio ar gymeriad hanesyddol arbennig adeilad rhestredig, heb ganiatâd, yn drosedd.