Mae'r adroddiad hwn, a gyhoeddwyd fis Mawrth 2012, yn darparu dadansoddiad ychwanegol ac yn amlygu rhai o'r materion ynghylch ansawdd y data, am eu bod yn deillio o arolwg sampl (yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth), ac oherwydd hynny nid ydym yn cynnwys yr wybodaeth yn ein allbynnau arferol.
Canfyddiadau allweddol
- Mae bron un ym mhob pump o bobl ifanc yn NEET.
- Mae bechgyn yn fwy tebygol o fod yn NEET rhwng 16-18 oed, ac mae merched yn fwy tebygol rhwng 19-24 oed.
- Mae'r awdurdodau sydd â'r nifer fwyaf o bobl ifanc NEET gan amlaf (er nad yn llwyr) yn ne-ddwyrain Cymru.
- Mae'r rhesymau am fod yn NEET yn amrywio yn ôl rhyw ac oed, gyda mwy na hanner y merched rhwng 19-24 oed sy'n NEET, yn economaidd anweithgar oherwydd teulu neu gyfrifoldebau gofal eraill.
- Mae lefelau cymwysterau yn is ymhlith y rheini sy'n NEET.
- Mae cyfran y bobl ifanc sy'n NEET yn uwch ymhlith y rheini ag anabledd.
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Dogfennau
Dadansoddiad pellach o ddata'n ymwneud â Phobl Ifanc nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant (NEET) , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 178 KB
PDF
Saesneg yn unig
178 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.