Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg
Ym mis Medi, croesewais yr adroddiad ‘Addysgu: Proffesiwn Gwerthfawr’ gan y Panel Annibynnol, dan arweiniad yr Athro Mick Waters, a adolygodd y sefyllfa bresennol o ran cyflog ac amodau athrawon ac a wnaeth gynigion i gefnogi ein diwygiadau addysg pan gafodd Cymru’r cyfrifoldeb am y maes hwn ar 30 Medi 2018.
Rwyf wedi cael cyfle i ystyried y cynigion yn ofalus a heddiw gallaf roi diweddariad ichi ar sawl peth a fydd yn cefnogi’r proffesiwn dysgu ac yn ein galluogi i gyflawni Cenhadaeth ên Cenedl.
Yn gyntaf, ac wedi myfyrio ar yr adborth rwyf wedi’i gael gan brifathrawon o ran clustnodi rhagor o amser i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, rwy am ymgynghori ar gynigion am Ddiwrnodau HMS Cenedlaethol newydd ar gyfer Dysgu Proffesiynol. Rwy’n cynnig diwygio rheoliadau er mwyn caniatáu i ysgolion gael un diwrnod HMS ychwanegol y flwyddyn, am y tair blynedd nesaf, yn benodol ar gyfer Dysgu Proffesiynol er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r cwricwlwm newydd.
Bydd y dyddiau hyn yn ychwanegol at ddiwrnodau HMS presennol. Mae hyn, ochr yn ochr â’r cyllid o £24 miliwn a gyhoeddais o’r blaen ar gyfer y Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol, yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn y proffesiwn addysgu. Gan weithio gyda’r proffesiwn, rydym yn rhoi’r gefnogaeth ac yn darparu’r cyfleoedd a’r amodau a fydd yn sicrhau mai Cymru yw’r wlad orau yn y Deyrnas Unedig i gael gyrfa addysgu ynddi.
Gan droi at adroddiad Mick Waters a chan barhau â’r drafodaeth rwyf wedi’i chael gyda phenaethiaid ac undebau llafur, rwy’n bwriadu cynnal trafodaethau pellach gyda nhw ar fanylion yr argymhellion. Mae’r broses gydweithredol hon yn bwysig – mae’n beth da cydweithio mewn ffordd bositif ac ymarferol.
Rwy’n falch ein bod eisoes yn bwrw ymlaen gyda rhai o’r argymhellion yn adroddiad Mick Waters fel rhan o'r amserlen ddatganoli, ac mae eraill yn adlewyrchu ymrwymiadau cyhoeddus rwyf wedi’u gwneud yn flaenorol. Mae hyn yn cynnwys ymrwymo i’r egwyddor ‘dim niwed’ a chynnal graddfeydd cyflog cymaradwy ar gyfer athrawon ac arweinwyr.. Mae’r adroddiad hefyd yn argymell sefydlu corff adolygu cyflogau – rhywbeth a gyhoeddais yn ddiweddar.
Caiff rhai o’r argymhellion sy’n ymwneud â chyflog ac amodau athrawon eu cynnwys, o bosibl, yng nghylchoedd gwaith Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru yn y dyfodol. Bydd angen i’r Fforwm Adolygu Cyflogau a’r Corff Adolygu Cyflogau eu hystyried yn fanwl. Maent yn ymwneud â cludadwyedd cyflog; graddfa gyflog hirach a threfniadau cynnydd newydd; gosod Cyfrifoldebau Addysgu a Dysgu mewn graddfeydd yn hytrach nag ystodau; a dysgu proffesiynol. Mae hyn ar wahân i’r diwrnodau HMS ychwanegol y soniwyd amdanynt uchod – mesurau dros dro, ar gyfer y tair blynedd nesaf yn unig, yw’r rheini yn benodol ar gyfer cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r cwricwlwm newydd. Bydd diddordeb arbennig gennyf mewn clywed syniadau’r corff adolygu o ran sut y mae diwrnodiau HMS yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd a’r nifer sydd ei angen i gefnogi Dysgu Proffesiynol effeithiol.
Byddaf yn gofyn yn benodol i’r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol ystyried yr argymhellion sy’n ymwneud â materion arweinyddiaeth ac i sefydlu gweithgor, a fydd yn cynnwys arweinwyr ysgolion a chynrychiolwyr o’r undebau, i fynd i’r afael â’r rhain gan y gallant effeithio ar y strwythur rheoli mewn ysgolion. Rhaid inni gael hyn yn iawn er mwyn sicrhau bod y dysgu a’r addysgu yn cael ei arwain yn effeithiol yn ein hysgolion. Mae hyn y parhau i fod yn flaenoriaeth i mi, gan gofio am sylwadau blaenorol y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (yr OECD) am y diffyg ffocws ar arweinyddiaeth yn ein system.
Mae'r argymhellion i’w hystyried gan Lywodraeth Cymru yn ymwneud â rheoli perfformiad, ymsefydlu, addysg gychwynnol athrawon, addysgeg ac anghenion dysgu ychwanegol. Mae'n bosibl y bydd angen newidiadau deddfwriaethol neu newidiadau polisi sylweddol ar eu cyfer, neu efallai eu bod wrthi’n cael eu hadolygu ar hyn o bryd fel rhan o Genhadaeth ein Cenedl. Wrth i’r rhain gael eu datblygu, fe barhawn i weithio gyda’r proffesiwn a’r undebau llafur.
Lle bo’r rhain wedi’u datblygu’n gynigion manylach, gan eu bod yn ymwneud â chyflogau ac amodau, mater i Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, sydd newydd gael eu sefydlu, fydd penderfynu arnynt.
I gloi, o ran y cynnig i ‘ail-greu addysg’ a sefydlu Comisiwn Annibynnol i adrodd ar sut y gallwn gyflawni hynny, byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach maes o law.
Wrth symud ymlaen gyda'r ymgynghoriad ar y diwrnod HMS ychwanegol a’r argymhellion yn yr adroddiad ‘Addysgu: Proffesiwn Gwerthfawr’, rwyf am adeiladu ar y drafodaeth flaenorol a pharhaus gyda'r holl rhanddeiliaid, er mwyn sicrhau ein bod yn bwrw ymlaen â’r rhain mewn modd a fydd yn helpu i godi statws y proffesiwn, a’i ysgogi.
Gellir gweld yr ymgynghoriad ‘Diwrnodau HMS Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol 2019-22’ ar wefan Llywodraeth Cymru: https://beta.llyw.cymru/diwrnodau-hms-ychwanegol-dysgu-proffesiynol-cenedlaethol-2019-2022