Ni fydd angen caniatâd cynllunio fel arfer er mwyn cynnal a chadw ffasgiâu, er enghraifft, eu peintio neu roi ffasgiâu newydd yn lle hen rai.
Fodd bynnag, os ydych yn byw mewn adeilad rhestredig neu ardal ddynodedig (ardal gadwraeth, parc cenedlaethol, ardal o harddwch naturiol eithriadol), dylech gysylltu â’ch Awdurdod Cynllunio Lleol cyn gwneud unrhyw waith.