Heddiw, bu Julie James, Arweinydd y Tŷ, yn ymweld â’r Maes Chwarae Digidol cyntaf yn y Gogledd, sy’n cynnig cyfleoedd cyffrous i arbrofi gyda’r Rhyngrwyd Pethau mewn lleoliad gwledig.
Mae Arloesi Gwynedd Wledig, ar y cyd â Choleg Meirion-Dwyfor, yn treialu technoleg LoRaWAN sy’n caniatáu i bethau siarad â’r rhyngrwyd heb 3 G neu WiFi. Nid yw’r dechnoleg hon yn tynnu’n drwm ar y batri, mae’n gweithio ar draws cryn bellter ac mae’r lled band yn isel, felly, mae’n arbennig o ddefnyddiol mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell.
Diben y gwaith treialu hwn, sydd hefyd yn cynnwys Cyngor Gwynedd, yw asesu sut y gallai’r Rhyngrwyd Pethau fod o fudd i gymunedau gwledig yng Ngwynedd.
Mae datblygwyr technoleg a myfyrwyr yn yr ardal wedi bod yn cydweithio i ystyried sut y gallai’r Rhyngrwyd Pethau helpu i ddatrys rhai o’r problemau y mae ardaloedd gwledig yn eu hwynebu, ac mae nifer o synwyryddion wedi’u gosod eisoes ar diroedd helaeth Glynllifon. Gall y synwyryddion hyn, er enghraifft, dynnu sylw at y ffaith bod angen gwacau bin sbwriel, bod oergell lle cedwir brechlynnau yn dechrau mynd yn rhy dwym, neu bod gât yn cael ei hagor yn ystod y nos.
Mae’r prosiect wedi cael cyllid drwy Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014 – 2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae’n cael ei ariannu hefyd gan yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear a Chyngor Gwynedd.
Dywedodd Julie James:
“Mae wedi bod yn wych cael gweld technoleg LoRaWAN yn cael ei defnyddio yng Nglynllifon. Mae’n ddelfrydol ar gyfer datblygu’r Rhyngrwyd Pethau mewn ardaloedd gwledig. Dwi’n falch bod y prosiect wedi cael cymorth drwy’r Cynllun Datblygu Gwledig a dwi’n edrych ’mlaen at gael clywed am yr effaith y mae’r prosiect wedi’i gael ac am y gwersi y gellir eu dysgu ar gyfer lleoliadau gwledig eraill.
“Yn ein Cynllun Gweithredu ar Ffonau Symudol, rydyn ni wedi dweud bod angen inni gefnogi technolegau arloesol a datblygol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o hynny.”
Dywedodd Debbie Tebbutt, Pennaeth Cynorthwyol y coleg:
“Mae cael treialu’r math hwn o dechnoleg yng Ngholeg Glynllifon yn beth hynod gyffrous ac mae’n tystio i’n hymrwymiad i hyrwyddo arloesedd ym maes amaethyddiaeth ac mewn systemau rheoli cefn gwlad.”
Yn ôl Rhian Hughes, o Arloesi Gwynedd Wledig:
“Mae posibiliadau enfawr i’r math hwn o dechnoleg mewn ardaloedd gwledig. Mae’r prosiect hwn yn dangos bod y Rhyngrwyd Pethau yn berthnasol i ardaloedd gwledig a sut gallai helpu gyda rai o’r heriau sy’n wynebu ardaloedd fel Gwynedd, er enghraifft, sut i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd anghysbell, a ellir gwneud adeiladau cymunedol yn rhatach ac yn haws i’w rhedeg, a sut i atal lladrata o ffermydd; ac os datblygwn ni ein hatebion ein hunain, mae cyfleoedd gwych i gwmnïau lleol ddylunio ac adeiladu dyfeisiau newydd.”
Mae Arloesi Gwynedd Wledig yn un o raglenni LEADER Menter Môn, sy’n chwilio am atebion arloesol i’r heriau sy’n wynebu economi Gwynedd drwy dreialu mentrau newydd.
Dros y misoedd nesaf, bydd yna her wedi ei chreu ar gyfer grŵp o fyfyrwyr (o'r adran amaeth, cyfrifiadureg a pheirianneg) i ddatblygu eu syniadau, gyda mewnbwn gan arbenigwyr lleol a bydd gwobr yn cael ei rhoi i'r syniad/prototeip gorau ym mis Mai 2019. Ar gyfer y myfyrwyr cyfrifiadureg a pheirianneg bydd hwn yn gyfle gwych i ddefnyddio technoleg arloesol mewn lleoliad go iawn a byddant yn ennill profiadau gwerthfawr ac sut beth ydyw i ddatrys problemau ar gyfer diwydiannau nad ydynt efallai yn gwybod dim amdanynt. Bydd y myfyrwyr amaeth yn dysgu sut y gellir defnyddio technoleg ar fferm weithredol.