Mae busnes dylunydd creadigol o fri sy'n cyfuno fideograffeg drôn â delweddu 3D yn ffynnu ger Pwllheli diolch i fand eang cyflym iawn.
Ymwelodd Arweinydd y Tŷ, Julie James, sy'n gyfrifol am seilwaith digidol â Jim Ellis sy'n cyd-redeg When it Rains Creative o Fferm Llwyndyrus, i weld sut y mae band eang cyflym iawn wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i'w fusnes.
Mae'r fferm yn defnyddio band eang cyflym iawn diolch i raglen Cyflymu Cymru ac mae'n elwa ar dechnoleg ffeibr i adeiladau. Mae hynny'n golygu bod yr eiddo yn gallu cael Gwibgyswllt ar gyflymder o 330Mbps sydd hefyd yn galluogi'r fferm i farchnata'r bythynnod gwyliau 'Llwyndyrus Farm Spa' ac ymdrin ag archebion yn effeithlon.
Mae'r busnes yn cynnig gwasanaethau fideograffeg, ffotograffiaeth a delweddu 3D ac mae cysylltiad cyflymach yn hanfodol i sicrhau bod y busnes yn gwireddu ei uchelgeisiau yn y dyfodol.
Yn ddiweddar, enillodd Jim Ellis wobr Dr Emrys Evans yn y Sioe Frenhinol dan y thema Arloesedd a Sgiliau Cyfathrebu. Mae'r wobr yn cael ei rhoi i berson dan 35 oed sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn y maes arloesi a sgiliau.
Ar ôl yr ymweliad, dywedodd Julie James:
"Rwy'n falch iach o ymweld â Fferm Llwyndyrus lle y mae manteision band eang cyflym iawn i'w gweld.
"Braf oedd clywed sut mae Jim wedi bod yn defnyddio cysylltiadau cyflymach wrth ei waith. Mae ei awydd i ddefnyddio technoleg i gyflawni ei nodau yn amlwg iawn ac rwy'n hynod falch bod Cyflymu Cymru wedi ei helpu.
"Heb un amheuaeth mae'r rhaglen wedi bod yn un lwyddiannus drwy gyflwyno band eang cyflym iawn i bron 733,000 o adeiladau ledled Cymru na fyddent fel arall wedi ei gael, yn enwedig yng nghefn gwlad.
"Rhaid cofio hefyd na fyddai un adeilad yng Ngwynedd wedi cael band eang cyflym iawn heb Cyflymu Cymru, ond bellach mae mwy na 58,400 yn manteisio arno diolch i'r rhaglen.
"Er y llwyddiant hwn, mae mwy i'w wneud er mwyn cyrraedd yr adeiladau hynny sydd hebddo a bellach rydyn ni'n canolbwyntio ar sut mae gwneud hynny.
"Mae ein Cynlluniau Allwedd Band Eang Cymru a Thalebau Gwibgyswllt hefyd ar gael i'r rheini nad oes ganddynt fand eang cyflym iawn."
Dywedodd Jim Ellis o When it Rains Creative:
"Mae band eang cyflym iawn yn gwbl hanfodol i'm helpu i ddatblygu fel entrepreneur a fideograffydd uchelgeisiol ac i hybu'r busnes.
"Mae'n hollbwysig i'n helpu i ymdrin â chwsmeriaid, i drosglwyddo data ac i weithio'n fwy effeithlon.
"Mae band eang cyflym iawn wedi gwneud gwahaniaeth go iawn ac mae gweld yr effaith gadarnhaol y mae'n parhau i'w chael yn wych."
Dywedodd Ed Hunt, cyfarwyddwr rhaglenni Openreach:
“Roedd Cyflymu Cymru yn brosiect peirianyddol enfawr ac yn gryn her, ond mae ein peirianwyr wedi rhoi o’u gorau ac wedi ateb y galw. Mae’r gwaith a wnaed i gyflwyno’r rhwydwaith digidol hwn ymhlith y gwaith mwyaf nodedig yn y maes yn Ewrop.
"Mae gan Gymru bellach yr ôl troed mwyaf ym Mhrydain o ran gwasanaethau ffeibr llawn i’r cartref o ganlyniad i waith ein peirianwyr dan raglen Cyflymu Cymru. Rwyf wrth fy modd o weld cwmnïau fel When it Rains Creative yn elwa ar y seilwaith newydd hwn o Fferm Llwyndyrus ger Pwllheli ac yn mwynhau'r cysylltiadau band eang cyflymaf yn y DU.
"Mae ein seilwaith digidol newydd yn dod â chyfoeth o gyfleoedd newydd i fusnesau ledled Cymru i'w helpu i dyfu a byddwn yn parhau i estyn ein rhwydwaith ffeibr llawn hyd yn oed ymhellach ar draws y wlad."