Heddiw, cyhoeddodd Julie James, Arweinydd y Tŷ sydd hefyd yn gyfrifol am y maes digidol, fod Cyflymu Cymru yn golygu bod band eang ffeibr cyflym ar gael i bron 733,000 o adeiladau ar draws Cymru.
Mae cyflymder o 30Mbps man lleiaf ar gael i 717,000 ohonynt ac o leiaf 24Mbps ar gyfer y gweddill.
Mae Cymru wedi bod ar flaen y gad hefyd o ran defnyddio cysylltiadau ffeibr i adeiladau, a defnyddiwyd y dechnoleg hon i ddarparu gwasanaeth i bron 48,700 o’r cyfanswm. Mae cyflymder o 100Mbs ar gael bellach i bob un o’r rhain.
Ni fyddai band eang ffeibr cyflym ar gael i unrhyw un o’r bron 733,000 o adeiladau hyn heb ymyrraeth rhaglen Cyflymu Cymru, sy’n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Openreach, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth y DU.
Cyflymu Cymru sydd wedi darparu gwasanaethau band eang i hanner yr holl gartrefi a’r busnesau ar draws Cymru sy’n gallu manteisio bellach ar fand eang ffeibr cyflym. Dim ond mewn ardaloedd lle nad oedd gan gwmnïau masnachol unrhyw gynlluniau i ddarparu band eang yr oedd rhaglen Cyflymu Cymru ar gael. O gyfuno’r rhaglen honno â’r gwasanaethau a ddarparwyd yn fasnachol, mae’r dechnoleg ar gael bellach i fwyafrif llethol yr adeiladau yng Nghymru.
Dywedodd Julie James:
“Mae Cyflymu Cymru wedi bod yn llwyddiant diamheuol ac mae wedi arwain at newid sylweddol o ran y gallu i fanteisio ar wasanaethau band eang ym mhob cwr o’r wlad. O edrych ar y rheini sy’n gallu manteisio ar y gwasanaeth yng Nghymru, gall dros hanner ohonyn nhw ddiolch inni am gamu i’r adwy – mae hynny ynddo’i hun yn tystio i effaith gadarnhaol y rhaglen hon.
“Heb raglen Cyflymu Cymru, fyddai gwasanaethau band eang cyflym iawn ddim wedi bod ar gael ar draws ardaloedd cyfan rhai o’n hawdurdodau lleol – does dim un ardal erbyn hyn lle dyw’r gwasanaeth ddim ar gael. Gan ardaloedd anghysbell Gymru y mae rhai o’r gwasanaethau cyflymaf yn y DU, diolch i gysylltiadau ffeibr i adeiladau.
“Mae darparu gwasanaeth band eang ar y raddfa hon, ac mor gyflym â hyn, yn nhirwedd Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, wedi bod yn gryn her a bu’n rhaid troi ar brydiau at atebion arloesol, megis dronau.
“Er bod y rhaglen wedi llwyddo i weddnewid y sefyllfa ddigidol yng Nghymru, dw i’n ymwybodol iawn fod yna adeiladau o hyd lle dyw band eang ddim ar gael a dan ni wrthi ’nawr yn gweithio ar sut i gyrraedd y mannau hynny.”
Dywedodd Kim Mears, rheolwr-gyfarwyddwr gydag Openreach:
“Dan ni’n hynod falch o’r hyn dan ni wedi’i gyflawni yng Nghymru.
“Roedd Cyflymu Cymru yn brosiect peirianyddol enfawr ac yn gryn her, ond mae’n peirianwyr wedi rhoi o’u gorau ac wedi ateb y galw. Mae’r gwaith a wnaed i gyflwyno’r rhwydwaith digidol hwn ymhlith y gwaith mwyaf nodedig yn y maes yn Ewrop.
“Mae adeiladu seilwaith band eang cyflym a dibynadwy yn gam arall tuag at greu cenedl wirioneddol unedig a chwbl gysylltiedig. Diolch i’r prosiect hwn, mae gan gartrefi a busnesau mewn rhai o ardaloedd mwyaf gwledig Cymru gysylltiadau cyflym a dibynadwy erbyn hyn a fydd, am ddegawdau i ddod, yn cynnal pob math o wasanaethau a chymwysiadau sy’n defnyddio llawer iawn o ddata, megis teleiechyd, rhith-wirionedd a realiti estynedig a dyfeisiau clyfar yn y cartref.
“Erbyn hyn, mae modd i fwy na dwywaith yr ardaloedd na chynt fanteisio ar fand eang ffeibr, a gan Gymru y mae’r ôl troed mwyaf ym Mhrydain o ran gwasanaethau ffeibr llawn i’r cartref.
“Gall Cymru ymfalchïo yn y ffaith bod band eang cyflym iawn ar gael mewn mwy o ardaloedd nag yn yr Almaen, Ffrainc, Sbaen a’r Eidal , ond dan ni dal yn ymwybodol iawn bod rhai cymunedau yn dal i aros i gael cysylltiadau gwell. Dan ni’n fwy penderfynol nag unrhyw fusnes arall i gyrraedd yr ardaloedd hynny, a byddwn ni’n parhau i gynnig atebion drwy’n Partneriaeth Ffeibr Gymunedol. Dan ni hefyd yn ymrwymedig i fynd ati ar y cyd â Llywodraeth Cymru i edrych ar y dewisiadau eraill posibl er mwyn sicrhau bod gwasanaeth band eang boddhaol ar gael i bawb.”