Mae Halen Môn, ar Ynys Môn, yn lledaenu’r gair am ei halen enwog yn gynt nag erioed i bedwar ban byd diolch i Cyflymu Cymru.
Mae Halen Môn, a sefydlwyd yn 1996 gan Alison a David Lea-Wilson, wedi mynd o nerth i nerth ac ar hyn o bryd mae’n allforio ei gynnyrch i dros 15 o wledydd. Ymysg ei gwsmeriaid enwog mae cyn-arlywydd Amercia, Barack Obama.
Er mwyn gwella’r busnes, penderfynodd y cwmni wneud cais am gymorth ariannol o dan gynllun Taleb Gwibgyswllt Llywodraeth Cymru, a daeth yn un o’r busnesau cyntaf yng Nghymru i fuddsoddi yn y dechnoleg Ffeibr ar Alw sy’n darparu cyflymder band eang o 330mbps.
Mae Cynllun Taleb Gwibgyswllt yn helpu busnesau i dalu’r costau cyfalaf cychwynnol sy’n ymwneud â gosod gwasanaeth band eang cyflym iawn. Mae Ffeibr ar Alw ar gael yng Nghymru fel rhan o’r rhaglen Cyflymu Cymru.
Mae newid i gyswllt gwell a chyflymach wedi cael effaith sylweddol ar Halen Môn gan sicrhau y gall y cwmni gyflogi rheolwr gwerthu o bell sy’n gallu cysylltu â’r cwmni o unrhyw leoliad heb angen bod yn Ynys Môn.
Dywedodd Alison Lea-Wilson, cydsylfaenydd Halen Môn:
“Mae newid i Ffeibr ar Alw wedi gwella’r ffordd rydyn ni’n gweithio bob dydd. Mae wedi arwain at gostau llai a gallwn ni ddefnyddio ein holl declynnau drwy un cysylltiad band eang cryf.
“Mae Ffeibr ar Alw wedi gwella ein cyflymder cysylltu yn aruthrol sy’n golygu y gallwn ni weithio drwy wasanaethau cwmwl nawr, a defnyddio’n llawn y technolegau sydd ar gael i gysylltu â’n cwsmeriaid ledled y byd.
“Mae cael defnyddio band eang cyflymach wedi dod yn hanfodol, y pedwerydd cyfleustod, ac rydyn ni’n elwa’n fawr ar y newid.”
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth:
“Pleser o’r mwyaf yw cael clywed sut y mae technoleg Ffeibr ar Alw yn gwneud gwahaniaeth mawr i Halen Môn, diolch i Cyflymu Cymru.
“Mae cael defnyddio band eang cyflym iawn a gwibgyswllt yn dod yn fwyfwy pwysig i fusnesau ledled Cymru, a dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y seilwaith sy’n gallu darparu’r gwasanaeth hwn.
“Mae Halen Môn yn enghraifft wych o sut y gall manteisio ar fand eang cyflymach roi hwb mawr i fusnesau.
“Y Cynllun Taleb Gwibgyswllt yw dim ond un o’r mentrau rydyn ni wedi eu rhoi ar waith i gynnal busnesau a sicrhau bod Cymru yn un o’r gwledydd sydd â’r cysylltiadau band eang gorau.
“Ar draws Cymru mae dros 647,000 o safleoedd yn gallu defnyddio band eang cyflym iawn diolch i Cyflymu Cymru a bydd y rhif hwnnw’n codi cyn diwedd y flwyddyn.
“Diolch i Cyflymu Cymru, ymhlith y gwledydd datganoledig, Cymru sydd â’r nifer fwyaf o safleoedd sy’n gallu defnyddio band eang cyflym iawn, sef wyth o bob 10 ohonynt.
“Heb y fenter hon, ni allai unrhyw safle yn Ynys Môn ddefnyddio band eang cyflym iawn. Heddiw, mae mwy na 30,000 yn gallu ei ddefnyddio.”
Dywedodd Ed Hunt, cyfarwyddwr rhanbarthol Openreach:
“Mae cyflwyno band eang cyflym iawn yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd y mae busnesau ledled y wlad yn gweithredu.
“O ganlyniad i fand eang sy’n gyflymach ac yn fwy dibynadwy, gall busnesau fanteisio ar farchnadoedd newydd neu arbed amser ac arian drwy wneud pethau’n gynt fel lawrlwytho dogfennau.
“Drwy Ffeibr ar Alw, gall cwmnïau gael cyflymder gwibgyswllt drwy estyn y cysylltiad band eang ffeibr optig o’r stryd agosaf hyd at y drws ffrynt. Mae hyn yn datrys y broblem yn dda iawn i gwmnïau fel Halen Môn sydd angen cyflymder uwch.”
Partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, BT, Llywodraeth y DU a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yw Cyflymu Cymru, sy’n dod â band eang mwy cyflym i ardaloedd na fyddent yn ei gael fel arall.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn rhedeg y cynllun Allwedd Band Eang Cymru, sy’n gallu cynnig grant ar gyfer cael band eang cyflym iawn drwy dechnolegau eraill os bydd angen.
Ceir rhagor o fanylion yn https://beta.llyw.cymru/cyflymu