Diolch i Cyflymu Cymru, bydd ffermwyr ifanc yn gallu cadw mewn cysylltiad a chael y newyddion diweddaraf am ddigwyddiadau'r Sioe yn gynt nag erioed eleni.
Bydd y cysylltiad ffeibr ym Mhentref Ieuenctid y Sioe eleni yn cynnig wi-fi cyflymach i'r rheini sy'n aros yno, ynghyd â galluogi'r trefnwyr i redeg y system archebu ar-lein yn fwy effeithiol.
Mae tua 4,000 o bobl ifanc yn aros yn y Pentref bob blwyddyn, a tua 12,000 yn mynd i'r digwyddiadau a'r cyngherddau a gynhelir yno. Bydd yr unigolion hyn i gyd yn gallu manteisio ar y wi-fi cyflymach hwn.
Daeth y cysylltiad yn bosib ar ôl i Cyflymu Cymru gyflenwi fferm gyfagos â band eang cyflym iawn drwy gysylltiad ffeibr i'r adeilad. Golyga hynny fod y fferm bellach yn elwa ar un o'r cysylltiadau cyflymaf sydd ar gael yn y DU.
Dywedodd Nia Lloyd, pennaeth Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru:
"Gyda thros 4,000 o bobl ifanc yn aros gyda ni a llawer mwy'n dod i'r digwyddiadau, mae cael cysylltiad rhyngrwyd da'n hanfodol. Ar gyfer y digwyddiad eleni mae gennym ni signal wi-fi llawer cryfach, diolch i'r cysylltiad ffeibr newydd. Dw i'n gwybod y bydd y bobl ifanc yn croesawu hyn.
"Mae hefyd yn wych i ni fel sefydliad, gan ei fod yn rhoi hwb i'n system archebu ar-lein, gallwn ddod o hyd i wybodaeth ynghynt a darparu gwell gwasanaeth."
Dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James:
"Mae maes y Sioe ei hun eisoes yn elwa ar fand eang cyflym, ond doedd y cysylltiad ddim yn cyrraedd y Pentref Ieuenctid sydd ychydig ymhellach draw.
"Fel lle bywiog a chyffrous, mae'r Pentref yn boblogaidd iawn ymhlith y gymuned o ffermwyr ifanc. Mae'n newyddion da iawn ei bod bellach yn haws iddyn nhw ddefnyddio'u dyfeisiau, cadw mewn cysylltiad, a threfnu digwyddiadau."
Partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, BT, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, a Llywodraeth y DU yw Cyflymu Cymru. Mae'n dod â band eang cyflym iawn i'r ardaloedd lle na fyddai ar gael fel arall.
Diolch i'r rhaglen hon, gall dros 647,000 o adeiladau yng Nghymru elwa ar fand eang cyflym iawn erbyn hyn.
Mae'r maes ei hun wedi'i gysylltu â band eang cyflym iawn ers 2014 ar ôl i waith gael ei wneud gan Cyflymu Cymru ar y cabinet gwyrdd gerllaw. Mae gan 48,768 eiddo ym Mhowys gysylltiad o ganlyniad i'r rhaglen.
Dywedodd Ed Hunt, cyfarwyddwr rhaglen Cyflymu Cymru Openreach:
"Mae darparu bang eang cyflym iawn i'r Pentref Ieuenctid yn adeiladu ar y gwaith ry'n ni eisoes wedi'i wneud i wella'r cysylltiad ar faes y Sioe Frenhinol.
"Mae cael cysylltiad rhyngrwyd cyflym yn rhan bwysig o fywyd bob dydd. Bydd cael y seilwaith hwn ar waith erbyn dechrau'r Sioe yn golygu y bydd y bobl ifanc sy'n aros yn y Pentref yn gallu cadw mewn cysylltiad yn well."