Bydd ymwelwyr ag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eleni yn gallu anfon negeseuon ar draws y byd yn gyflym iawn diolch i Cyflymu Cymru.
A hithau’n dathlu ei phen-blwydd yn 70, mae’r ŵyl wedi’i chysylltu â band eang cyflym iawn yn ddiweddar sy’n darparu cyflymderau o 330Mbps drwy wasanaeth Ffeibr ar Alw BT sydd ar gael yng Nghymru fel rhan o raglen Cyflymu Cymru.
Bydd y gwasanaeth yn darparu wi-fi cyflym i’r 4,000 o berfformwyr ac i’r 50,000 o ymwelwyr yn yr ŵyl fyd enwog hon a gynhelir rhwng 3 - 9 Gorffennaf.
Roedd gan yr ŵyl eisoes gyflymderau band eang cyflym iawn yn ei swyddfa a’i phafiliwn. Ond penderfynwyd buddsoddi mewn Ffeibr ar Alw er mwyn galluogi pawb sy’n dod i’r ŵyl i gyfathrebu’n fwy cyflym.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth:
"Mae Eisteddfod Llangollen yn croesawu miloedd o ymwelwyr o bob cwr o’r byd bob blwyddyn a bydd eu profiadau yma yn dylanwadu’n barhaol ar eu hargraff o Gymru. Mae’n newyddion gwych bod yr ŵyl wedi manteisio ar Ffeibr ar Alw drwy raglen Cyflymu Cymru, ac mae hyn yn dangos bod Cymru’n wlad sy’n cyfathrebu’n ddigidol.
"Cafodd yr ŵyl hon ei sefydlu i greu gwell ddealltwriaeth a chyfeillgarwch rhwng gwledydd. Felly, mae’n fwy perthnasol nag erioed i sicrhau bod ymwelwyr yn gallu cyfathrebu’n ddigidol.
"Mae Cyflymu Cymru yn trawsnewid amgylchedd digidol Cymru. Bellach, yn sgil y rhaglen, gall dros 645,000 o safleoedd ddefnyddio band eang cyflym iawn. Ymhlith y gwledydd datganoledig, Cymru sydd â’r nifer fwyaf o safleoedd, sef 8 o bob 10 ohonynt, sy’n gallu defnyddio band eang cyflym iawn."
Dywedodd Rhys Davies, Cadeirydd yr Eisteddfod:
"Rydyn ni’n falch iawn o ddod â Ffeibr ar Alw drwy raglen Cyflymu Cymru i faes yr Eisteddfod mewn pryd i’r ŵyl eleni. Bydd y gwasanaeth ychwanegol hwn yn gwella’n sylweddol y cyfleusterau sydd ar gael i’n cynulleidfaoedd, ein harddangoswyr a’n cystadleuwyr a fydd yn gallu cael gwybodaeth am yr Eisteddfod a rhannu eu profiadau yn ei chylch mewn modd nad oedd yn bosibl o’r blaen. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gyllid gan Cyngor Celfyddydau Cymru a chymorth Llywodraeth Cymru, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn iddyn nhw."
Dywedodd Ed Hunt, cyfarwyddwr rhaglen Cyflymu Cymru dros BT:
"Ledled y wlad mae nifer cynyddol o bobl yn profi manteision defnyddio band eang cyflym iawn.
"Mae ein peirianwyr Openreach yn gweithio’n galed iawn bob dydd i osod y seilwaith cyn gynted, a mor eang, ag y bo modd. Mae’n wych cael gweld gŵyl mor uchel ei bri ag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, ynghyd â’i miloedd o ymwelwyr o bob cwr o’r byd, yn elwa ar y seilwaith wi-fi cyflym iawn rydyn ni’n ei adeiladu."
Partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, BT, Llywodraeth y DU a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yw Cyflymu Cymru, sy’n dod â band eang mwy cyflym i ardaloedd na fyddent yn ei gael fel arall.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn rheoli’r Cynllun Taleb Gwibgyswllt sy’n rhoi cymorth i fusnesau sydd am uwchraddio eu cysylltiadau wi-fi.