Diolch i Cyflymu Cymru, mae siop fara wedi helpu i ddod â hwb band eang cyflym i Aberdaron, pentref yng Ngwynedd.
Heddiw, gwelodd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, sut mae Becws Islyn wedi’i ddefnyddio fel canolfan i ddarparu rhwydwaith wi-fi i ganol y pentref ers dyfodiad band eang cyflym iawn.
Arloesi Gwynedd Wledig oedd yn gyfrifol am y prosiect treialu gydag aelodau o’r gymuned leol. O ganlyniad, gall pobl leol ac ymwelwyr â’r pentref, sydd ym mhen gorllewinol Gwynedd, bellach ddefnyddio rhwydwaith wi-fi.
Mae’r system yn galluogi dadansoddi, sy’n helpu i hyrwyddo Aberdaron a’i atyniadau i ymwelwyr newydd ac i ymwelwyr presennol. Casglwyd pum mil o gyfeiriadau e-bost a ddefnyddir gan bobl sy’n mewngofnodi i’r wi-fi. Mae’r ymwelwyr hyn bellach yn cael gwybodaeth yn rheolaidd am Aberdaron, gan eu hannog i ddychwelyd i’r pentref ac yn helpu i adeiladu perthnasoedd.
Mae mwy o safleoedd yn y pentref ar fin cael mynediad i fand eang cyflym iawn pan fydd gwaith peirianyddol yn cael ei wneud gan beirianwyr Openreach, busnes lleol rhwydwaith BT, ar ran Cyflymu Cymru sy’n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, BT, Llywodraeth y DU a Chronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop, gan ddod â band eang cyflymach i ardaloedd na fyddent yn ei gael fel arall.
Ni fyddai llawer o rannau o Gymru, gan gynnwys Gwynedd gyfan, wedi cael mynediad i fand eang cyflym iawn oni bai am raglen waith Cyflymu Cymru. O ganlyniad i’r rhaglen, mae gan 49,941 o safleoedd yn y sir bellach fynediad i fand eang cyflym. Mae’r rhif hwn yn cynyddu bob dydd wrth i’r gwaith barhau.
Gall wyth allan o ddeg safle yng Nghymru ddefnyddio band eang cyflym iawn o’i gymharu ag ychydig dros hanner ddwy flynedd yn ôl. Mae gan Cymru yr argaeledd mwyaf o ran band eang cyflym iawn ymhlith y gwledydd datganoledig.
Dywedodd y Gweinidog:
“Mae wedi bod yn wych gweld sut y mae’r gymuned yma yn Aberdaron wedi manteisio ar y cysylltiad band eang cyflym iawn i Becws Islwyn i greu rhwydwaith wi-fi.
“Mae Cyflymu Cymru yn golygu dod â band eang cyflymach i ardaloedd na fyddent yn ei gael fel arall, megis Aberdaron. Mae band eang sy’n gyflym ac yn ddibynadwy yn gynyddol bwysig i bob un ohonom - busnesau a chartrefi
“Gwyddom fod mwy i’w wneud cyn y bydd gwaith Cyflymu Cymru yn dod i ben eleni, ac rydym eisoes yn edrych ar sut i gyrraedd yr ychydig o safleoedd sydd ar ôl yng Nghymru wedi i’r prosiect ddod i ben. Mae’n galonogol i glywed am yr effaith gadarnhaol sydd gan y math hwn o brosiect wrth inni edrych ar y camau nesaf hynny.”
Dywedodd Geraint Jones o Becws Islyn:
“Mae pawb yn disgwyl mynediad i wi-fi y dyddiau yma, hyd yn oed pan fyddwch chi ar wyliau mewn ardal wledig fel Aberdaron. Mae’n wych bod gan y becws fynediad i fand eang cyflym iawn, sydd yn ei dro wedi bod yn ganolbwynt i gymuned wi-fi.
Mae adborth gan ymwelwyr wedi bod yn gadarnhaol iawn ac mae wedi bod yn hwb i’r busnes drwy annog mwy o bobl i ddod i gaffi'r becws.”
“Mae Becws Islyn wedi cynyddu ei nifer o weithwyr amser llawn o un i bedwar, gyda chyfanswm o 14 o weithwyr rhan-amser."
Dywedodd Ed Hunt, Cyfarwyddwr Band Eang y Genhedlaeth nesaf i Gymru:
“Roedd sicrhau bod ein rhwydwaith ffibr ar gael yn Aberdaron yn her beirianyddol sylweddol oherwydd lleoliad ynysig y pentref. Rydym wedi gweithio’n galed i wneud i hyn ddigwydd ac rydym yn falch i fod yn rhan o raglen sydd mor arloesol a blaengar. Mae’n wych gweld y pentrefwyr yn defnyddio’r dechnoleg yn llawn. Mae band eang ffibr yn rhan mor bwysig o fywyd bob dydd y dyddiau hyn ac mae pobl yn disgwyl gallu cael mynediad iddo hyd yn oed pan fyddant oddi cartref. Rwy’n siŵr y bydd ymwelwyr â’r ardal leol yn falch iawn o ddarganfod bod ganddynt fynediad i gysylltiad cyflym iawn. Bydd yn hwb i atyniadau lleol gan y gall pobl edrych arnynt ar-lein nawr.”
Dywedodd Jonathan Jenkin, Rheolwr Cysylltiadau â Rhanddeiliaid ac Economeg Gymdeithasol gyda’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear:
“Mae cefnogi’r prosiect hwn wedi rhoi hwb aruthrol i fusnesau lleol, gan helpu i liniaru effaith economaidd-gymdeithasol datgomisiynu Trawsfynydd, a sicrhau bod cymunedau gwledig yn gynaliadwy. Bydd ehangu Wi-Fi di-dâl yn cryfhau’r seilwaith yng nghefn gwlad ymhellach, yn ogystal â denu rhagor o ymwelwyr i’r ardal.”
Ariannwyd y prosiect wi-fi drwy Cymunedau Gwledig - Cynllun Datblygu Gwledig 2014 - 2020 Llywodraeth Cymru sy’n cynnwys cyllid Llywodraeth Cymru a chyllid Ewropeaidd gyfer datblygu gwledig. Mae hefyd wedi’i ariannu’n rhannol gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear a Chyngor Gwynedd.