Bydd blwch a ddatblygwyd yng Nghymru, sef y SepsisBox, yn cael ei ddadlennu i gynulleidfa ryngwladol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yr wythnos nesaf.
Mae Rocialle, sy'n cyflogi 350 o bobl yn ei leoliad yn Abepennar, yn un o 44 o gwmnïau o Gymru sy'n mynd ar y daith fasnach i Medica yr wythnos nesaf.
Datblygodd Rocialle y SepsisBox ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a 1000 o Fywydau, sef Gwasanaeth Gwella GIG Cymru, fel rhan o raglen arloesi Comisiwn Bevan, Esiamplau Technoleg Iechyd.
Mae'r blwch tafladwy ac hawdd ei ddefnyddio yn cael ei brofi mewn Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd ledled Cymru a Lloegr ar hyn o bryd.
Mae blwch Rocialle yn cynnwys chwe drws. Y tu ôl i'r drysau ceir yr eitemau sydd eu hangen i ddarparu'r bwndel gofal chwe cham ar gyfer sepsis. Gyda'r SepsisBox, mae popeth wrth law ac mae'r nyrsys yn cael eu harwain gam wrth gan drwy'r broses. Mae'n gymorth i sicrhau'r gofal cywir yn ystod yr awr gyntaf dyngedfennol ar ôl cael diagnosis o sepsis.
Mae'r canlyniadau interim yn dangos gwelliant o ran y canlyniadau i gleifion a lleihad yn nifer y cleifion y mae'n rhaid eu trosglwyddo i'r adran gofal critigol, sydd wedi arwain at arbediad o £1,200 y claf, bob nos, i ysbytai.
Dywedodd Rheolwr Masnachu Rocialle, Mark Birchmore:
"Mae adnabod sepsis yn gynnar a'i drin yn ddi-oed yn hanfodol i sicrhau canlyniadau llwyddiannus i'r claf. Gyda SepsisBox, mae'r nyrs yn gallu dechrau rhoi triniaeth ar unwaith, sy'n golygu ei bod yn bosibl darparu gofal ble bynnag a phryd bynnag y mae ei angen. Mae hynny'n helpu i achub bywydau ac arbed arian i'r GIG.
"Mae'r potensial yn enfawr, o ran achub bywydau ac arbed arian i ysbytai, yn ogystal â darparu cyfleoedd gwerthu a chyfleoedd busnes newydd i Rocialle. Mae canlyniadau interim y treialon yn galonogol iawn a bydd Medica yn gyfle gwych i arddangos a hyrwyddo'r SepsisBox i gynulleidfa ryngwladol."
Dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James:
"Mae Medica yn un o'r digwyddiadau pwysicaf yng nghalendr rhyngwladol y sector gwyddorau bywyd, gan ei fod yn cynnig y cyfle i gwmnïau arloesol fel Rocialle hyrwyddo eu cynhyrchion a'u gwasanaethau i gynulleidfa ryngwladol.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynorthwyo busnesau i fasnachu'n rhyngwladol ac rwy'n falch iawn y bydd gennym daith fasnach i Medica eto eleni. Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o raglen ehangach o deithiau masnach ac arddangosfeydd tramor sy'n derbyn pecyn cymorth cynhwysfawr i helpu busnesau i gael mynediad at farchnadoedd allforio newydd a chyfleoedd newydd.”
Eleni, mae 44 o gwmnïau a 90 o gynrychiolwyr - sef y nifer fwyaf hyd yma, yn cymryd rhan yn nhaith fasnach Llywodraeth Cymru i Medica.