Heddiw, fe wnaeth Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies gwrdd ag arweinwyr busnes lleol i ddysgu am y math o gefnogaeth yr hoffent ei gweld gan y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De.
Fe wnaeth y dyn busnes lleol, Andrew Diplock ymuno â'r Gweinidog yng Nghanolfan Fusnes Tredomen. Mae Andrew Diplock yn aelod o'r tasglu ac yn Gyfarwyddwr Strategaeth a Llywodraethu gydag Inprova Energy, sydd â'i bencadlys Cymreig yng Nghaerffili.
Cyfarfu'r ddau â chynrychiolwyr busnesau lleol a gwasanaethau cynghori, gan gynnwys Siambr Fasnach De Cymru, Biotage GB a Smart Money Cymru, i glywed rhagor am y rhwystrau y mae eu busnesau yn eu hwynebu a’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt.
Dywedodd Alun Davies:
“Ers sefydlu'r tasglu, dyma'r cyfle cyntaf dw i wedi ei gael i gwrdd wyneb yn wyneb ag arweinwyr busnes, ac roedd yn braf clywed am eu profiadau o redeg busnesau yn y Cymoedd, a'r hyn yr hoffent ei weld yn digwydd er mwyn helpu eu cwmnïau i ffynnu; dw i wedi dysgu llawer.
“Roedd yn galonogol iawn clywed y fath agweddau cadarnhaol ar faterion sy'n ymwneud â chyfleoedd i wella sgiliau a hyfforddiant. Hefyd, mae’n ymddangos bod yna gyffro ynghlwm â chysylltiadau'r Tasglu gyda'r Dinas-ranbarthau a sut y gallwn fanteisio ar fentrau newydd megis y system Metro.”
Dywedodd Andrew Diplock, “Mae pob math o fusnesau yn bwysig i'n heconomi, ac roedd yn gyfle gwych heddiw i ni wrando a thrafod yr hyn y gall y tasglu ei wneud i gefnogi busnesau newydd, yn ogystal â helpu busnesau i dyfu yng Nghymoedd y De. Dw i wedi bod yn rhan o'r gymuned fusnes yng Nghaerffili ers bron i 15 mlynedd, ac mae bob amser yn bleser cael cyd-drafod â phobl fusnes o'r un anian, a chael trafodaeth agored gyda thrawstoriad o sefydliadau yn ardal Caerffili. Diolch i bawb a gymerodd ran yn y drafodaeth gan ei bod wedi creu llawer o syniadau, cyfleoedd ac opsiynau i'r tasglu eu hystyried ymhellach.”
Mae'r tasglu'n bwriadu adeiladu ar waith sydd wedi'i wneud o'r blaen yn yr ardal, ond mewn ffordd fwy cydlynol sydd wedi'i thargedu i ddiwallu anghenion ein cymunedau yn y Cymoedd.
Mae'r tasglu'n cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus yn ystod y misoedd nesaf ar draws Cymoedd y De i geisio cael barn cymunedau lleol am eu blaenoriaethau ar gyfer eu hardaloedd.
I gael gwybod mwy neu i gofrestru ar gyfer y cyfarfodydd, ewch i'n tudalen Facebook (dolen allanol).