Alun Davies, ymuno â phartneriaid lleol yng Nghastell-nedd ddoe i drafod sut y gallai eu gwybodaeth o'r ardal fod yn allweddol i gyflawni nodau Tasglu'r Cymoedd.
Ers sefydlu'r tasglu, mae wedi gweithio'n agos gyda phobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd i ddod i wybod rhagor am yr hyn y maen nhw am ei weld ar gyfer eu cymunedau a'r cyfleoedd a'r heriau o’u safbwynt nhw.
Roedd y cynllun Ein Cymoedd Ein Dyfodol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn amlinellu'r camau i gyflawni blaenoriaethau'r Tasglu, ac yn nodi'r angen am saith hyb strategol yn y Cymoedd. Y gobaith yw y bydd pob hyb yn denu arian cyhoeddus, ynghyd â chyfalaf a buddsoddiad o'r sector preifat gan greu swyddi a chyfleoedd i'r ardal leol.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn ymweld â phob un o'r saith hyb strategol i drafod gwaith y tasglu â rhanddeiliaid lleol, ynghyd â ffurf y safleoedd, a sut y gall awdurdodau lleol, busnesau a rhanddeiliaid allweddol eraill fod yn rhan o ddatblygu ffyniant yr ardal.
Wrth siarad yn dilyn cyfarfod yng Nghanolfan Ddinesig Castell-nedd, dywedodd Alun Davies,
"Roedd seminar ddoe yn gyfle gwych i bawb sy'n gyfrifol am gyflawni ein blaenoriaethau ddod ynghyd a rhannu gwybodaeth a syniadau gwerthfawr. Rwy'n hyderus y bydd gweithio yn y ffordd hon yn gallu ein helpu i nodi'r prosiectau â blaenoriaeth a fydd yn ffurfio rhan gyntaf cam nesaf y gwaith parhaus o adfywio Castell-nedd yn economaidd.
"Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i drafod â chymunedau, fel ein partneriaid yng Nghastell-nedd, er mwyn sicrhau bod pob un o'r saith hyb yn diwallu anghenion unigryw yr ardal leol."
Yn ogystal ag yng Nghastell-nedd, bydd hybiau yn cael eu creu ym Merthyr, Caerffili, Pontypridd, Glynebwy, Cwmbrân a gogledd Pen-y-bont ar Ogwr.
Rhwng nawr a mis Ebrill, bydd y tasglu'n mynd ati gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid i nodi'r prosiectau hynny y bydd modd eu hariannu a'u cyflawni yn ystod cam cyntaf y datblygiad ym mhob hyb strategol erbyn 2021.
Nod y tasglu yw sicrhau bod busnesau, cyflogwyr ac entrepreneuriaid yn ymwybodol o'r mathau gwahanol o gymorth sydd ar gael i'w helpu i dyfu a rhoi hwb i'r economi leol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod am gau'r bwlch cyflogadwyedd rhwng y Cymoedd a gweddill Cymru drwy helpu tua 7,000 o bobl sy'n ddi-waith neu'n economaidd anweithgar i gael swyddi.