Mae Alun Davies wedi croesawu'r strategaeth gyntaf erioed ar draws y DU ar gyfer cyn-filwyr, a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mercher, 14 Tachwedd).
Cynhyrchwyd 'Y Strategaeth ar gyfer ein cyn-filwyr' ar y cyd â Llywodraethau'r DU a'r Alban, ac mewn cydweithrediad â Swyddfa Gogledd Iwerddon. Mae'n amlinellu gweledigaeth newydd i gefnogi cyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd, ym mhob agwedd ar eu bywydau.
Mae'r strategaeth yn nodi chwe maes allweddol lle bydd y mwyaf o angen cymorth dros y deng mlynedd nesaf: cymuned a pherthnasau, gwaith a sgiliau, iechyd a lles, cyllid a dyled, tai a chysylltiad â'r gyfraith. Mae'n ceisio nodi'r rhwystrau a'r cyfleoedd yn y meysydd hyn mewn perthynas â darparu cymorth i bob cyn-filwr, gan gynnwys gwell cydweithrediad rhwng sefydliadau, gwell cydlynu rhwng gwasanaethau a data mwy cadarn am gymuned y cyn-filwyr.
Bydd yn cael ei gyhoeddi wrth ochr ymarfer cwmpasu yng Nghymru sy'n gofyn am sylwadau ynghylch sut i hyrwyddo a chyflawni anghenion cymuned y cyn-filwyr.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies:
“Yr adeg hon o'r flwyddyn, rydyn ni’n cofio am y rheini sydd wedi ymladd yn ddewr mewn rhyfeloedd yn y gorffennol i ddiogelu ein ffordd o fyw. Diolch i gydweithrediad Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog, rydyn ni wedi llwyddo i wneud cynnydd ardderchog yng Nghymru wrth ddarparu gwasanaethau a chymorth priodol i gymuned y Lluoedd Arfog. Mae'r Strategaeth newydd hon yn cadarnhau ein hymrwymiad i sicrhau'r canlyniad gorau posib i'n cyn-filwyr, un a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w bywydau."
Hefyd lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet Lwybr Cyflogaeth newydd i gyn-filwyr a'r rhai sy'n gadael y Lluoedd Arfog, er mwyn iddynt gael cyfleoedd cyflogaeth ystyriol.
Mae cyflogaeth yn hanfodol i gyn-filwyr symud yn llwyddiannus i fyw fel sifiliaid. Datblygwyd y Llwybr Cyflogaeth mewn cydweithrediad â Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog, ac fe gafodd ei lansio gan Rwydwaith y Lluoedd Arfog CLlLC heddiw. Bydd yn cyfeirio cyn-filwyr a'r rhai sy'n gadael y Lluoedd Arfog at amrywiol gyfleoedd a gwasanaethau cefnogi sydd ar gael i'r rhai sy'n chwilio am yrfa newydd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet:
"Mae dod o hyd i waith ystyriol, sy'n cydnabod y sgiliau a ddysgwyd yn ystod eu cyfnod yn y Lluoedd Arfog, yn ffactor allweddol i helpu cyn-filwyr a'u teuluoedd i integreiddio yn ôl i fywyd fel sifiliaid, a chyfrannu at y cymunedau lle maen nhw’n ymgartrefu.
"Mae rhai, fodd bynnag, am amrywiol resymau yn ei gweld hyn yn anodd ac mae methu â dod o hyd i swydd yn ffactor allweddol. Bwriad y cynllun hwn yw eu helpu i ddod o hyd i wybodaeth a deall yr holl opsiynau sydd ganddyn nhw i gael swydd sy'n cydnabod eu sgiliau unigryw, a chynnal sicrwydd ariannol."
Mae Busnes yn y Gymuned yn datblygu Pecyn Cymorth i Gyflogwyr i gefnogi'r Llwybr Cyflogaeth. Bydd y Pecyn Cymorth i Gyflogwyr yn ategu'r Llwybr, gan roi canllawiau clir i gyn-filwyr a chyflogwyr am fanteision ychwanegol cyflogi cyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog.