Heddiw, cyhoeddodd Alun Davies, ba brosiectau cymunedol fydd yn elwa ar y 2m sy'n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru dros y ddwy flynedd nesaf.
Daw'r cyllid hwn o'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, ac fe'i rhoddir i 17 o brosiectau ledled Cymru, sy'n gweithio i ddatblygu cyfleusterau cymunedol sy'n creu'r cyfle i'r gymuned ddod at ei gilydd.
Cynllun grantiau cyfalaf yw'r rhaglen hon sy'n ariannu'r gwaith o ddatblygu cyfleusterau cymunedol sy'n gallu gwella ansawdd bywyd pobl leol. Mae'r grantiau ar gael ar ddwy lefel – hyd at £25,000, a hyd at £250,000.
Mae'r cynllun ar agor i sefydliadau cymunedol a sefydliadau yn y sector gwirfoddol, gan gynnwys mentrau cymdeithasol. Disgwylir i'r holl ymgeiswyr weithio gyda phartneriaid o'r sectorau cyhoeddus neu breifat, neu o'r trydydd sector.
Dywedodd Alun Davies,
“Diben y cyllid hwn yw helpu i greu cymunedau cryf lle mae pobl yn gallu cymryd rhan uniongyrchol mewn materion lleol. Dw i'n awyddus i weld ein cymunedau'n cyfrannu at y gwaith o ddarparu gwasanaethau lleol hanfodol, a byddaf i'n parhau i weithio i'w galluogi i wneud hynny. Mae pob un o'r prosiectau sydd wedi eu henwi yn y cyhoeddiad heddiw yn creu'r cyfle i ddarparu cyfleusterau'n lleol, gan wella cydlyniant cymunedol drwy ddod â phobl at ei gilydd."
Ers i'r rhaglen agor yn 2015, mae wedi ariannu 83 o brosiectau ar hyd a lled Cymru, gan ddarparu grantiau gwerth cyfanswm o £17.7 miliwn.
Dyma'r prosiectau sy'n cael cyllid o dan y cylch ariannu diweddaraf:
- Cymdeithas Gymunedol Tudno, Llandudno - £15,000 tuag at y gost o brynu cyfarpar newydd ar gyfer campfa, i'w ddefnyddio gan ddefnyddwyr anabl, y rheini sy'n elwa ar y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, a phobl ifanc.
- Eglwys Sant Grwst, Llanrwst, Conwy - £25,000 tuag at y gost gyfan o adnewyddu ei chyfleusterau mewnol ac adfer Capel Gwydir.
- Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn, Machynllech - £250,000 ar gyfer datblygu canolfan barhaol i ymwelwyr a chyfleuster cymunedol, yn lle'r cabanau symudol presennol sy'n dod i ddiwedd eu hoes.
- Cwmni Theatr Arad Goch, Aberystwyth - £25,000 ar gyfer gwella ardal ei dderbynfa, gosod ffenestri newydd, a chomisiynu gosodwaith celf.
- Ymddiriedolaeth Castell y Gelli Gandryll - £150,000 ar gyfer darparu lle dysgu cymunedol fel rhan o'r gwaith o adnewyddu'r castell ehangach.
- Hope Church, y Drenewydd - £250,000 tuag at y gost o ddodrefnu'r feithrinfa a lleoliad Dechrau'n Deg yn ei chyfleuster pwrpasol newydd.
- Menter Gymunedol Mynach, Pontarfynach - £150,000 tuag at y gost o ymestyn hen Gapel Mynach a chreu cyfleuster cymunedol.
- Sheep Music, Ysgubor Gymunedol Llanandras, Powys - £23,000 ar gyfer adeiladu ysgubor gymunedol fel lle dan do i gynnal amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau cymunedol.
- Prosiect Ieuenctid Caerfyrddin (Dr M’z), Caerfyrddin - £209,845 tuag at y gost o brynu ac adnewyddu ei adeilad presennol er mwyn sicrhau bod y lleoliad yn gynaliadwy yn y dyfodol.
- Prosiect Cymunedol Hengoed, Hengoed - £176,639 tuag at y gost o droi hen Gapel y Bedyddwyr yn Ganolfan Lles Cymunedol.
- Ymddiriedolaeth Gymunedol Ardal Treharris, Treharris, Merthyr Tudful - £202,631 ar gyfer adeiladu ystafelloedd newid newydd, a hefyd le i'r gymuned gyfarfod.
- Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful, Aberfan - £250,000 ar gyfer adnewyddu ac ymestyn ardaloedd y caffi cymunedol a'r gampfa yng Nghanolfan Hamdden Aberfan.
- Eglwys St Catherine, Pontypridd - £23,000 i wella mynediad i bobl anabl ac adnewyddu'r swyddfa/ystafelloedd cyfweld.
- View (Dove) Ltd, Banwen, Castell-nedd Port Talbot - £10,050 ar gyfer adnewyddu ei feithrinfa.
- Hill Community Development Trust, Canolfan y Ffenics, Abertawe - £160,000 tuag at y gost o ymestyn ardal ei meithrinfa ac adnewyddu ystafelloedd hyfforddi a chynadledda.
- Clwb Tenis Bwrdd Cymunedol Dinas Caerdydd - £24,516 tuag at y gost gyfan o greu caffi cymunedol yn y lleoliad.
- Eglwys y Bedyddwyr St Julian, Casnewydd - £180,000 ar gyfer darparu cyfleuster cymunedol mwy o faint er mwyn i'r grŵp allu ehangu'r gwasanaethau a gynigir.