Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Alun Davies wedi tynnu sylw at rôl canol trefi wrth hybu economïau lleol, yn ystod ymweliad â Stryd Fawr Rhymni.
Alun Davies yw Cadeirydd y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De, a sefydlwyd i sicrhau newid parhaol i bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y cymoedd.
Yn ystod yr ymweliad ddoe, cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet ag aelodau o'r gymuned i drafod gwaith y Tasglu a'r rôl y gall ei chwarae wrth sicrhau bod ein strydoedd mawr yn parhau i ffynnu.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet,
“Mae gan ganol trefi a strydoedd mawr rôl ganolog wrth greu ymdeimlad o gymuned a darparu lle inni siopa, gwneud busnes, cymdeithasu a byw. Dylai ein strydoedd mawr fod wrth galon ein trefi, gan gynnig economi leol fywiog a chymuned llawn bwrlwm ac mae gan bob un ohonon ni rôl i'w chwarae wrth sicrhau eu bod yn parhau'n gynaliadwy.
“Ers imi sefydlu'r Tasglu, mae llawer o bobl wedi dweud mai un o'r prif heriau sy'n wynebu cymunedau'r Cymoedd yw dirywiad y stryd fawr draddodiadol. Nid yw hyn yn fygythiad i fanwerthwyr annibynnol yn unig, ond gall y newid mewn arferion siopa, yn enwedig cynnydd mewn pryniadau ar-lein a'r tu allan i'r dref achosi anawsterau hefyd.
“Mae pobl yn dweud wrtho i eu bod am siopa ar eu stryd fawr, a chefnogi busnesau lleol, ond pan fo'n rhatach ac yn fwy cyfleus gwneud hynny ar-lein, neu hyd yn oed y tu allan i'r dref, mae'n ddewis anodd i'w wneud.
“Er ein bod yn gwybod bod canol ein trefi'n gryf ac yn gyfarwydd ag addasu i rymoedd y farchnad, bu Tasglu'r Cymoedd yn gweithio gyda'n partneriaid cymunedol i ddod o hyd i atebion i rai o'r materion hyn er mwyn i'n strydoedd mawr allu nid yn unig goroesi ond ffynnu.
“Yn ddiweddar cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £5 miliwn yn ychwanegol i ymestyn cynllun Rhyddhad Ardrethi'r Stryd Fawr am flwyddyn ychwanegol i mewn i 2018-19. Mae'r cynllun yn unigryw i Gymru a bydd yn cefnogi rhyw 13,000 o fusnesau bach a chanolig eleni.
“Rydyn ni hefyd wedi bod yn edrych hefyd ar atebion arloesol i drafnidiaeth gyhoeddus ac rydyn ni wedi gweithio gyda'r awdurdodau lleol i ymchwilio i effaith rhagor o fentrau i barcio am ddim yng nghanol trefi.”