Jeremy Miles AS Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cynnwys
Cyfrifoldebau'r Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cynnwys
Cyfrifoldebau
- Goruchwylio GIG Cymru
- Perfformiad ac uwchgyfeirio yn GIG Cymru
- Cyllid y GIG
- Cynllunio GIG Cymru
- Atal argyfyngau, parodrwydd ar eu cyfer ac ymateb iddynt o ran iechyd gan gynnwys parodrwydd ar gyfer pandemig
- Diogelu Iechyd
- Gwella Iechyd
- Gwyddor gofal iechyd
- Iechyd y Cyhoedd
- Anghydraddoldebau iechyd
- Gofal Sylfaenol
- Derbyn adroddiadau gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ymateb iddynt a'u llywio
- Polisi a chyllidebau ar gyfer Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru
- Goruchwylio perthynas Llywodraeth Cymru ag Archwilio Cymru o ran gweithgareddau'r GIG
- Hyfforddi a datblygu gweithlu Meddygol y GIG [ac eithrio blynyddoedd 1-5 o Addysg Prifysgol Meddygon]
- Gwyddoniaeth, Tystiolaeth a Chyngor ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
- Profiad cleifion, eu cynnwys a llais y dinesydd
- Integreiddio
- Gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd mewn perthynas â'r sector iechyd a gofal
- Yr economi sylfaenol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
- Gwyddorau Bywyd
- Iechyd y Cyhoedd: Gwasanaethau gwella iechyd a llesiant
- Gordewdra
Bywgraffiad
Cafodd Jeremy Miles ei eni a'i fagu ym Mhontarddulais. Ac yntau'n siaradwr Cymraeg, cafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Ystalyfera yng Nghwm Tawe a New College, Rhydychen lle bu'n astudio'r gyfraith. Yn syth ar ôl graddio, bu Jeremy'n addysgu'r gyfraith ym Mhrifysgol Warsaw yng Ngwlad Pwyl. Yn ddiweddarach, bu'n ymarfer fel cyfreithiwr yn Llundain ac wedyn bu ganddo uwch swyddi cyfreithiol a masnachol mewn busnesau yn sector y cyfryngau, gan gynnwys ITV a rhwydwaith teledu'r Unol Daleithiau a stiwdio ffilmiau NBC Universal. Ar ôl dychwelyd i Gymru sefydlodd ei ymgynghoriaeth ei hun yn gweithio gyda chleientiaid rhyngwladol yn y sectorau darlledu a digidol.
Cafodd Jeremy ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer etholaeth Castell-nedd ym mis Mai 2016 fel yr ymgeisydd Llafur a'r Blaid Gydweithredol. Ar 16 Tachwedd 2017 penodwyd Jeremy yn Gwnsler Cyffredinol ac ar 13 Rhagfyr 2018 fe'i penodwyd yn Gwnsler Cyffredinol ac yn Weinidog Brexit. Penodwyd Jeremy yn Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar 13 Mai 2021, ac yn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg ar 21 Mawrth 2024. Penodwyd Jeremy yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 11 Medi 2024.
Mae ei ddiddordebau'n cynnwys datblygu economaidd a chymunedol, ac addysg a sgiliau. Mae hefyd yn mwynhau ffilmiau, darllen, coginio, beicio, heicio a dilyn rygbi'n lleol.