Heddiw, cyhoeddodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog dros Blant, fod saith o awdurdodau lleol ychwanegol ar fin treialu cynnig gofal plant newydd, arloesol Llywodraeth Cymru.
Mae'r cynnig yn cael ei gyflwyno'n raddol ledled Cymru, ac erbyn mis Medi 2020 bydd yn darparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth ar gyfer rhieni plant tair a phedair oed sy'n gweithio, a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.
Heddiw, mae'r Gweinidog yn cyhoeddi bod y cynnig yn cael ei ehangu i gynnwys ardaloedd yr awdurdodau lleol canlynol o fis Medi 2018:
- Caerdydd - cyflwynir y cynnig gam wrth gam
- Casnewydd - cyflwynir y cynnig gam wrth gam
- Torfaen - y sir gyfan
- Castell-nedd Port Talbot - cyflwynir y cynnig gam wrth gam
- Ceredigion - y sir gyfan
- Conwy - cyflwynir y cynnig gam wrth gam
- Wrecsam - cyflwynir y cynnig gam wrth gam
Mae'r cyhoeddiad heddiw'n golygu y bydd nifer yr awdurdodau sy'n cyflwyno'r cynnig yn dyblu erbyn mis Medi, gan ddangos cynnydd a momentwm go iawn. Disgwylir y bydd y cynnig yn cael ei gyflwyno mewn o leiaf rhai rhannau o'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol Cymru erbyn mis Medi 2019.
Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol:
"Mae ein cynnig gofal plant arloesol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i rieni ledled Cymru, gan leihau'r straen ar incwm teuluoedd a helpu i sicrhau nad yw gofal plant yn eu rhwystro rhag derbyn swydd neu gynyddu eu horiau.
"Mae'n bleser mawr gennyf gadarnhau bod y cynnig yn cael ei ehangu i saith o awdurdodau lleol eraill ledled Cymru, wrth inni barhau i weithio i gyflwyno'r cynnig yn raddol drwy Gymru gyfan erbyn mis Medi 2020."