Bydd ymwelwyr iechyd yng Nghymru yn cael rhagor o hyfforddiant er mwyn helpu i wneud yn siŵr bod rhieni yn meithrin cwlwm â’u plant newydd-anedig. Cyhoeddwyd hynny heddiw gan y Gweinidog Plant.
I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Plant, mae’r Gweinidog wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn darparu £100,000 yn 2018-19 i helpu i ddarparu hyfforddiant i ymwelwyr iechyd a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd mewn gwasanaethau o fewn y rhaglen Dechrau’n Deg ac oddi allan iddi.
Mae tystiolaeth gynyddol fod diffygion o ran meithrin cwlwm a chysylltiad yn gallu effeithio ar ddatblygiad plentyn. Os nad yw’r cwlwm yn ddigon cadarn, bydd hyn yn llesteirio datblygiad y plentyn ac yn effeithio ar ei allu i ddysgu, i feithrin perthynas gadarnhaol â phobl eraill ac i wireddu ei botensial.
Mae meithrin cwlwm cadarn yn hybu datblygiad gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol y plentyn, ynghyd â’i ddatblygiad corfforol. Mae’n ei helpu i ddatblygu hunanymwybyddiaeth, ymddiriedaeth ac empathi iach, a fydd yn sail i’w berthynas â phobl eraill – nid dim ond ei rieni – ac yn ei helpu i wireddu ei botensial.
Mae’r hyfforddiant yn adeiladu ar lwyddiant y cyllid a ddarparwyd i ymwelwyr iechyd yn ardaloedd Dechrau’n Deg yn 2017-18 ac mae’n cyd-fynd â gwaith Llywodraeth Cymru i roi’r dechrau gorau i blant drwy ganolbwyntio ar eu hanghenion yn ystod y 1,000 diwrnod cyntaf.
Dywedodd y Gweinidog Plant, Huw Irranca-Davies:
“Mae profiadau cynnar plentyn yn dylanwadu’n sylweddol ar ei ddyfodol, ac maent yn dyngedfennol o ran rhoi’r siawns iddo gael bywyd iach, ffyniannus a boddhaus.
“Mae’r blynyddoedd cynnar a mynd i’r afael â phrofiadau niweidiol mewn plentyndod yn ddwy o’m prif flaenoriaethau. Mae meithrin cwlwm a chysylltiad cadarn rhwng plant a’u rhieni yn allweddol i’r ddau faes.
“Weithiau bydd angen cymorth ar rieni i feithrin cwlwm cadarn â’u plentyn newydd-anedig. Mae manteision amlwg i’r plentyn, ond mae hefyd yn help i iechyd meddwl a llesiant emosiynol y rhieni, gan ei fod yn golygu eu bod yn gallu ymateb yn well i’w baban a dod yn rhieni mwy hyderus.
“Bydd y cyllid rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn hybu ein hagenda rhianta cadarnhaol. Bydd hon yn ei thro yn helpu i atal profiadau niweidiol mewn plentyndod, sy’n gallu cael effaith wael iawn yn ystod y cyfnod allweddol a sensitif hwn yn natblygiad plentyn.”