Heddiw mae Cwnsler Cyffredinol Cymru, Jeremy Miles AC, yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil Deddfwriaeth Cymru (Drafft), a fydd yn para am 12 wythnos.
Bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol i wneud cyfreithiau yn fwy hygyrch ac mae hefyd yn gwneud darpariaeth bwrpasol ynglŷn â dehongli deddfwriaeth Gymreig.
Wrth siarad cyn gwneud ei ddatganiad llafar, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol:
“Mae cymhlethdod y gyfraith sy’n gymwys i Gymru yn broblem fawr, ac mae angen cymryd camau i’w symleiddio a’i gwneud yn fwy hygyrch i bawb. Fy nod yw sicrhau bod cyfraith Cymru yn cael ei threfnu’n Godau cynhwysfawr ar sail y meysydd pwnc sydd wedi’u datganoli i Gymru.
“Mater o gyfiawnder cymdeithasol yw hyn yn fy marn i. Mae’n hollbwysig bod dinasyddion yn gallu deall eu hawliau a’u cyfrifoldebau o dan y gyfraith, a’u bod yn gwybod beth yw ystyr y gyfraith a phwy sy’n gyfrifol am beth. Dyna pam yr ydw i heddiw yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus a chyfnod o ymgysylltu ar y Bil Drafft. Hoffwn i annog pawb i gymryd rhan ac i ddweud eu dweud.”
Mae llyfr statud clir, sicr a hygyrch yn ased economaidd ac mae’n rhoi fframwaith cyfreithiol cadarnach a mwy sefydlog i’r rhai sy’n dymuno cynnal busnes yng Nghymru, gan hybu buddsoddiad a thwf drwy hynny. Mae hefyd yn galluogi cyrff y sector cyhoeddus a sefydliadau eraill i ddeall y cyd-destun y maent yn gweithio ynddo yn well, ac yn gwneud y broses o wneud cyfreithiau yn fwy effeithiol ac effeithlon. Byddai’r cynigon hefyd yn ei gwneud yn haws defnyddio’r gyfraith yn Gymraeg.
Mae’r Bil Drafft yn garreg filltir bwysig yn natblygiad llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, a’i nod yw helpu i wneud cyfraith Cymru yn addas ar gyfer y dyfodol.