Mae Julie James yn cyhoeddi ei bwriad i geisio barn goroeswyr camdriniaeth fel rhan o Fframwaith Cenedlaethol i Ymgysylltu â Goroeswyr sy'n cael ei ddatblygu.
Mae'r Ganolfan wedi derbyn mwy na £173,000 o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i brynu ac adnewyddu'r adeilad newydd ym Mangor. Caiff Arweinydd y Tŷ gyfle i fynd am dro o amgylch yr adeilad a siarad ag aelodau o'r staff yno.
Dywedodd Julie James:
“Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i ddathlu effaith menywod ym mhob maes bywyd. Ond mae hefyd yn gyfle i siarad mwy am sut i fynd i'r afael â thrais rhywiol a chefnogi goroeswyr.
“Mae'r Ganolfan hon yn cynnig gwasanaeth hanfodol. A dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi yn y cyfleusterau sydd yma ym Mangor.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod lleisiau goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael eu clywed, a'u bod yn helpu i lywio'n gwaith.
“Rydyn ni'n datblygu Fframwaith Ymgysylltu â Goroeswyr a fydd yn amlinellu'r ffyrdd y bydd goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn dylanwadu ar ein gwaith. Bydd hefyd yn sicrhau bod goroeswyr yn gallu eirioli drostyn nhw eu hunain i addysgu eu cyfoedion, eu cymunedau a'u cydweithwyr am eu profiadau.
“Rwy am annog goroeswyr i leisio'u barn a chydweithio gyda ni i ddatblygu hwn; mae'n hanfodol bod eu barn nhw'n dylanwadu ar y gwaith hwn.”
Dywedodd Yasmin Khan, un o Gynghorwyr Cenedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais:
“Rhaid i oroeswyr camdriniaeth chwarae rhan ganolog yn y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddileu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rwy wedi cael y fraint o gyfarfod â goroeswr sydd wedi cyfrannu at y fframwaith hwn yn ddiweddar, a gallwn ni ddysgu cymaint gan y rhai hynny sydd wedi goroesi'r math yma o gamdriniaeth.
“Mae'n hanfodol ein bod ni'n dysgu gwersi ac yn defnyddio'r wybodaeth hon i lywio'r ddarpariaeth ar gyfer y dyfodol a nodi'r anghenion hynny sydd heb gael eu diwallu. Gwrando ar oroeswyr a dysgu ganddyn nhw yw ein hymrwymiad ni. Mae'r Fframwaith Cenedlaethol yn rhoi sylw i'r union faterion hynny y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â nhw er budd y rhai hynny sydd wedi dioddef trais, a'r rhai hynny sydd mewn perygl o niwed.”
Dywedodd Lisa-Marie, fel un sydd wedi goroesi camdriniaeth:
“Rwy wedi gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf ar nifer o brosiectau. Mae'n hanfodol bod y rhai hynny sydd â phrofiad personol o gael eu cam-drin yn gallu rhoi cyngor ar y gwaith sydd angen ei wneud. Does neb mewn gwell sefyllfa i siarad am gamdriniaeth na'r rhai hynny sydd wedi ei goroesi. Mae'n hanfodol bod ein lleisiau nid yn unig yn cael eu clywed, ond bod pobl yn gwrando ar yr hyn yr ydyn ni'n ei ddweud hefyd.
Mae'r ddogfen ymgynghori a'r arolwg ar gael ar wefan Byw Heb Ofn yma.