Ei nod yw sicrhau canlyniadau cadarnhaol nid yn unig i’r troseddwyr eu hunain, ond hefyd i’r rhai y mae risg iddynt droseddu, ynghyd â’u teuluoedd a’n cymunedau.
Mae’r ‘Fframwaith i gefnogi newid positif ar gyfer y rheini sydd mewn risg o droseddu yng Nghymru 2018-23’ yn nodi sut y bydd y sefydliadau perthnasol yn cydweithio’n agos i roi cymorth i unrhyw droseddwr sydd angen hynny. Ei nod yw sicrhau canlyniadau cadarnhaol nid yn unig i’r troseddwyr eu hunain, ond hefyd i’r rhai y mae risg iddynt droseddu, ynghyd â’u teuluoedd a’n cymunedau.
Mae’r ddogfen sy’n cael ei chyhoeddi heddiw yn adeiladu ar lwyddiant Strategaeth Lleihau Aildroseddu 2014-16. Cafodd ei datblygu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi yng Nghymru, ar ran Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru Gyfan.
Dywedodd Alun Davies:
“Rydym wedi ymrwymo i leihau troseddu ac aildroseddu, er mwyn helpu i sicrhau bod ein cymunedau’n parhau’n ddiogel.
“Roedd y Strategaeth flaenorol yn llwyddiant oherwydd bod cyrff yng Nghymru – y rhai sydd wedi’u datganoli a’r rhai sydd heb eu datganoli, ynghyd a’r trydydd sector – wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth. Rwy’n falch y bydd y Fframwaith newydd yn hybu rhagor o gydweithio. Rwy’n falch hefyd y bydd yn rhoi sylw i ymyrryd yn gynnar i leihau nifer y troseddwyr sy’n dod i mewn i’r system cyfiawnder troseddol, ac yn gweithio gyda menywod a phobl ifanc.”
Ychwanegodd Dr Lee AS:
“Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru wedi ymrwymo i gydweithio â’i bartneriaid i ddiogelu’r cyhoedd ac i atal pobl rhag bod yn ddioddefwyr, trwy newid bywydau. Rwy’n falch felly y bydd y Fframwaith hwn yn helpu i barhau â’r cydweithio er mwyn atal troseddu, adsefydlu’r rhai sydd yn y system cyfiawnder troseddol yn barod, a chefnogi teuluoedd troseddwyr. Gyda’n gilydd, rwy’n credu y gallwn wneud gwahaniaeth.”
Trwy barhau i weithio mewn partneriaeth a chryfhau’r cydweithio trwy Gymru, bydd modd lleihau’r galw am y gwasanaethau sy’n cael eu darparu i gleieintiaid y system cyfiawnder troseddol mewn argyfwng, a hynny trwy ganolbwyntio mwy ar ymyrraeth gynnar. Bydd hyn hefyd yn helpu i reoli’r galw am wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i bobl nad ydynt yn y system cyfiawnder troseddol.
Mae’r Fframwaith yn ystyried hefyd sut y gallwn roi gwell cefnogaeth i blant troseddwy i’w hatal rhag dod yn rhan o’r system cyfiawnder troseddol eu hunain, a sut y gallwn helpu pobl ifanc a’r rhai sy’n gadael gofal i rwystro’u hymddygiad rhag gwaethygu a mynd yn drosedd. Mae hefyd yn ymdrin â’r oedolion hynny sydd yn y system cyfiawnder troseddol yn barod, gan ystyried sut y gallwn roi mwy o gymorth iddynt ddod i delerau â’u gweithredoedd eu hunain, a thrwy hynnu eu helpu i adsefydlu a gwella’u gallu i ymatal rhag troseddu.
Caiff y Fframwaith ei lansio’n swyddogol yng Nghaerdydd ar 19 Ebrill, a bydd y rhanddeiliaid allweddol yn edrych ar y cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yma o dan y Strategaeth Lleihau Aildroseddu ac yn cael eu gwahodd i ystyried sut y gallant gefnogi dull o fynd ati ar sail dull integredig o reoli troseddwyr wrth ymdrin â grwpiau blaenoriaeth y Fframwaith yn y dyfodol.