Heddiw, dywedodd y Gweinidog dros Blant, Huw Irranca Davies nad oes lle i gosbi plant yn gorfforol yn y Gymru sydd ohoni.
Er mwyn nodi Diwrnod Byd-eang y Plant, dywedodd y Gweinidog eto beth oedd cynlluniau Llywodraeth Cymru o ran cyflwyno deddfwriaeth i ddileu amddiffyniad cosb resymol. Os caiff y ddeddfwriaeth ei phasio gan y Cynulliad, bydd yn golygu bod plant yng Nghymru yn cael eu hamddiffyn rhag cosb gorfforol o dan y gyfraith.
Bu’r Gweinidog yn amlinellu ei ymrwymiad i drafod y darn o ddeddfwriaeth arfaethedig gyda’r cyhoedd a rhanddeiliaid sydd â diddordeb yn y maes, a hynny mewn ymgynghoriad ffurfiol yn y flwyddyn newydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn trafod gyda rhieni drwy’r ymgyrch #TrafodMaguPlant. Mae bron i 1,000 o ymatebion wedi dod i law mewn arolwg magu plant ar-lein hyd yn hyn.
Wrth siarad cyn digwyddiad yn Abertawe i nodi Diwrnod Byd-eang y Plant, dywedodd Huw Irranca-Davies:
“Mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn o’i record o ran hybu hawliau plant a gweithio i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Mae’r balchder hwnnw yn gwbl haeddiannol.
“Fel y Gweinidog dros Blant, fe fyddaf yn gweithio i sicrhau bod hawliau pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn cael eu hamddiffyn a’u parchu. Bydd hyn yn golygu bod modd iddyn nhw dyfu i fyw bywyd hapus, bywyd iach ac i fod yn ddinasyddion egnïol a chyfrifol.
“Pan basiwyd y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru yn 2011, roedd yn torri cwys newydd. Roeddem yn ddigon dewr i fod y wlad gyntaf yn y DU, ac yn un o’r ychydig wledydd yn Ewrop a’r byd i roi’r fath drefniadau yn eu lle. Rwy’n benderfynol o gyflawni’r ymrwymiad hwn.
“Mae ein dealltwriaeth o’r hyn sydd ei angen i amddiffyn a chefnogi plant a’u teuluoedd wedi newid yn aruthrol dros y blynyddoedd. Mae’r hyn sy’n dderbyniol mewn cymdeithas wedi newid oherwydd hynny. Nid yw’n dderbyniol bellach, mewn cymdeithas fodern a blaengar, i gosbi plant yn gorfforol. Fel Llywodraeth, peth cwbl briodol yw gweithredu i amddiffyn plant a chefnogi rhieni i ddefnyddio cosbau amgen, sy’n gadarnhaol ac yn effeithiol.”