Mae Carl Sargeant, yr Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant wedi cyhoeddi y bydd Swyddogion Cymorth Cymunedol yn parhau i gael eu hariannu am y tro.
Neilltuwyd £16.8 miliwn yn ystod 2018-19 er mwyn i'r prosiect barhau y tu hwnt i'r ymrwymiad gwreiddiol i dalu am 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yn ogystal â swyddogion yr heddlu â gwarant tan fis Mawrth 2018.
Bydd yr arian yn cael ei rannu rhwng pedwar Heddlu Cymru a'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i dalu costau'r Swyddogion Cymorth Cymunedol ychwanegol yn eu hardaloedd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn darparu cyllid ar gyfer 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol ychwanegol ers nifer o flynyddoedd ac mae'r cynllun wedi bod yn llwyddiant.
“Mae'r swyddogion i'w gweld yn amlwg yn eu cymunedau, yn meithrin cysylltiad â phobl, tawelu ofnau, ac ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Maen nhw'n gwneud gwaith hanfodol, nid yn unig drwy wneud ein cymunedau'n fwy diogel, ond hefyd drwy wneud iddynt deimlo'n fwy diogel.
"Mae estyn y cyfnod cyllido tu hwnt i'r ymrwymiad gwreiddiol yn fuddsoddiad sylweddol mewn diogelwch cymunedol a hynny ar adeg pan fo cyllidebau'r sector cyhoeddus, a chyllidebau'r heddlu yn enwedig felly, yn wynebu mwy o bwysau nag erioed o'r blaen.