Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am farn darparwyr gofal plant ar ei hymrwymiad i ddarparu 30 awr o ofal plant ac addysg gynnar a gyllidir gan y llywodraeth i rieni sy’n gweithio.
Nod y cyfnod cyntaf oedd dod i ddeall y rhwystrau sy’n wynebu rhieni o ran cael mynediad at ofal plant a dod i ddeall beth sy’n bwysig iddynt o ran y cynnig newydd. Bydd yr ail gam yn gofyn i ddarparwyr, gan gynnwys gwarchodwyr, perchnogion meithrinfeydd, cylchoedd meithrin a darparwyr gofal sesiynol am eu profiadau wrth ddarparu gofal. Caiff hyn ei wneud drwy holiaduron, grwpiau ffocws ac ymgynghori uniongyrchol.
Mae’r ymgyrch ymgysylltu’n cyd-fynd â phrofi’r Cynnig Gofal Plant mewn saith ardal awdurdod lleol. Mae’r cynlluniau peilot hyn ar hyn o bryd yn profi pob agwedd ar y cynnig i sicrhau y bydd yn hygyrch i rieni, i sicrhau y gall darparwyr ei gyflawni ac i sicrhau ei fod yn gynaliadwy yn y tymor hir unwaith y caiff ei gyflwyno ar draws Cymru.
Hefyd, mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r prosiect ‘Childcare Works’ sydd â’r nod o gefnogi pobl ifanc di-waith i ddechrau gyrfa ym maes blynyddoedd cynnar a gofal plant. Bydd hyn yn help i gynyddu capasiti’r sector er mwyn ateb y galw cynyddol a ddaw yn sgil y Cynnig Gofal Plant newydd i Gymru.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau Phlant, Carl Sargeant:
“Mae’r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn un o’r datblygiadau mwyaf yn y sector ers blynyddoedd.
“Rydyn ni’n awyddus i weithio gyda darparwyr gofal plant ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth o’r cynnig newydd ac i gael eu barn a chlywed eu profiadau wrth ddarparu gofal plant. Bydd yr hyn a ddysgwn o’r cam nesaf hwn o’r ymgyrch #TrafodGofalPlant yn bwydo i mewn i’n cynlluniau ac yn ein helpu i ddeall sut y gall y sector gael ei gefnogi er mwyn iddo ffynnu ledled Cymru.
“Anogaf bob darparwr - boed yn warchodwyr, yn berchnogion meithrinfeydd, yn gylchoedd meithrin, yn ddarparwyr sesiynol neu’n glybiau - i ddweud eu dweud a rhannu eu gwybodaeth a’u profiadau gyda ni er mwyn helpu i lunio’r Cynnig Gofal Plant i Gymru.”