Mae capel Bedyddwyr ym Mlaenau Gwent sydd wedi derbyn bron i £500,000.
Mae Capel Bedyddwyr Tabor, a adeiladwyd ym 1835, wedi'i adnewyddu'n llwyr gan £499,969 o raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, a £398,181 o gyfalaf a £101,787 o refeniw o'r Gronfa Loteri Fawr.
Yn aoriad swyddogol Canolfan Tabor, dywedodd Carl Sargeant, yr Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant: “Dim ond o ganlyniad i gyllid cyfalaf o £499,969 gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru a £398,181 gan Gronfa Pobl a Lleoedd y Loteri Fawr y mae'r ganolfan newydd, well hon wedi bod yn bosibl.
"Bydd y ganolfan mewn sefyllfa dda i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn ogystal â chyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddi. Bydd yr ystod o weithgareddau a fydd ar gael hefyd yn rhoi cyfle i bobl o bob oed gymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd, gan eu cadw rhag cael eu hynysu.
"Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol wedi darparu cyfanswm o dros £16 miliwn i 60 o brosiectau ar draws Cymru hyd yn hyn.”