Heddiw gwnaeth Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, agor yn swyddogol Canolfan RiverDee yn Sir y Fflint.
Cafodd y ganolfan ei hailwampio o ganlyniad i gyllid o £499,950 gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru a £491,397 gan Gronfa Pobl a Lleoedd y Loteri Fawr.
Bellach mae gan yr adeilad, sy'n eiddo i Eglwys Gymunedol RiverDee, gynllun gwell sy'n fwy hygyrch sy'n golygu bod modd ei ddefnyddio gan grwpiau cymunedol amrywiol.
Dywedodd Carl Sargeant:
"Mae'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol wedi darparu cyfanswm o dros £16 miliwn i 60 o brosiectau ar draws Cymru hyd yn hyn. Ond mae'n gwneud mwy na gwella adeiladau. Wrth wneud cais am y grantiau hyn, mae sefydliadau cymunedol fel Eglwys Gymunedol RiverDee wedi gorfod dangos sut mae'r cyfleusterau a gynigir ganddynt yn darparu gwasanaethau hanfodol i'r gymuned sy'n helpu i atal neu fynd i'r afael â thlodi.
"Rwyf wedi mwynhau cwrdd â staff a gwirfoddolwyr yn y ganolfan a chael cyfle i weld y gwaith sydd wedi'i wneud o ganlyniad i'r grant gan y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol."