Heddiw, cyhoeddodd Carl Sargeant, yr Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant, y bydd Caerffili yn ymuno â chwech awdurdod lleol arall i dreialu’r Cynnig Gofal Plant i Gymru o fis Medi 2017.
Gwnaeth yr Ysgrifenydd Cabinet y cyhoeddiad wrth ymweld â Chylch Chwarae Cymunedol Markham.
Yn ystod yr ymweliad, rhoddodd Carl Sargeant fwy o fanylion ar yr union ardaloedd o fewn yr awdurdodau lleol hynny lle bydd y cynnig ar gael. Yn ogystal â Chaerffili, yr awdurdodau lleol a fydd yn treialu’r cynnig yw Ynys Môn a Gwynedd (gan weithio ar y cyd), Blaenau Gwent, Sir y Fflint, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gwario £10 miliwn yn 2017-18 yn datblygu’r cynnig. Caiff mwyafrif helaeth y cyllid ei ddyrannu i’r awdurdodau lleol i dalu am ofal plant yn ystod y cyfnod gweithredu cychwynnol.
Dywedodd Carl Sargeant:
“Dwi’n bles gyda’r brwdfrydedd a’r hyblygrwydd dwi wedi’i weld hyd yn hyn yn yr awdurdodau lleol cyntaf i weithredu’r cynnig, ac mae eu gwybodaeth leol a’u dealltwriaeth o’r sector gofal plant wedi gwneud argraff arna i. Ar ôl ystyried nifer y plant a gaiff eu cynnwys yn y cynnig o fewn y chwech awdurdod lleol cychwynnol, dwi wedi penderfynu gwahodd Caerffili i ymuno â nhw o fis Medi.
"Mae’r awdurdodau lleol hyn wedi bod yn trafod gyda rhieni a darparwyr, a dyna rydyn ninnau wedi bod yn ei wneud drwy ein hymgyrch #TrafodGofalPlant. Mae’r negeseuon y mae’r awdurdodau yn eu clywed yn debyg iawn i’r rhai dw innau’n eu clywed ynghylch cost, mynediad, hyblygrwydd, dewis ac ymarferoldeb ceisio cydbwyso gofal plant a gwaith.
“Dwi wedi’i gwneud yn glir o’r dechrau bod yn rhaid i’n cynnig gofal plant weithio i rieni: mae’n rhaid iddyn nhw gael dewis a hyblygrwydd. Mae’n rhaid i’r peth weithio hefyd i’r darparwyr fel y gallan nhw gynnal ansawdd eu darpariaeth a meithrin datblygiad ein plant mewn amgylchedd diogel a llwyddiannus. Erbyn hyn, dwi wedi cytuno y bydd y saith awdurdod lleol dan sylw yn treialu gwahanol elfennau mewn gwahanol lefydd.”
Mi fydd prosiectau sy'n cynnig 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant am ddim i blant 3 a 4 oed yn gychwyn yn Medi 2017 yn yr awdurdodau lleol canlynol:
- Mi fydd Ynys Môn a Gwynedd yn gweithio gyda'i gilydd i roi prawf ar y cynnig. Mi fydd Ynys Môn yn profi’r cynnig yn ardaloedd canlynol: Porthaethwy, Llandegfan, Llanfairpwll, Biwmares a Llangoed; pentrefi Niwbwrch, Dwyran, Brynsiencyn, Llangaffo, Llanddaniel, Llanedwen a Thalwrn a thref Llangefni. Bydd Gwynedd yn profi'r cynnig yn y canlynol: yr ardaloedd llesiant o fewn dinas Bangor sy'n cynnwys Bethesda; ardaloedd llesiant ardal Porthmadog sydd hefyd yn cynnwys Cricieth, Penrhyndeudraeth, Harlech a Garndolbenmaen; ac ardal llesiant o fewn Ffestiniog sy'n cynnwys ardaloedd i lawr at Drawsfynydd; ac ardal llesiant Dolgellau sy'n cynnwys yr ardal o gwmpas Abermaw, Corris, Dinas Mawddwy, Dyffryn Ardudwy a Llanbedr. O Ionawr 2018, bydd yr ardal llesiant o fewn Caernarfon sy’n cynnwys Bethel, Cwm y Glo, Bontnewydd, Deiniolen, Llanberis, Groeslon, Llanllyfni, Clynnog, Llanrug, Llanwnda, Penisarwaen, Penygroes, Talysarn a Waunfawr hefyd yn rhan o’r cynnig.
- Mi fydd Blaenau Gwent yn gweithredu'r cynnig ar draws yr awdurdod lleol cyfan o fis Medi 2017.
- Mi fydd Caerffili yn profi’r cynnig o fewn rhanbarth dwyreiniol canolbarth y Cymoedd sy'n cynnwys ardaloedd trefol fel y Coed-duon, Bontnewydd a Chrymlyn yn ogystal nifer o gymunedau llai.
- Mi fydd Sir y Fflint yn profi'r cynnig yn ardal Bwcle, Bagillt a Brychdyn.
- Mi fydd Rhondda Cynon Taf yn profi pedair ardal, gan ddefnyddio talgylch ysgolion ar draws tri cwm, ac un dalgylch ysgol gyfrwng Gymraeg er mwyn sicrhau lledaeniad ar draws yr awdurdod, sef Ysgol Gyfun Rhydywaun, Bryncelynnog, Glynrhedynog ac Aberpennar.
- Mi fydd Abertawe yn profi’r cynnig mewn wardiau wedi eu lledaenu ar draws y ddinas gan gynnwys Dyfnant, Penclawdd, Llangyfelach, West Cross, Treforys, Pontarddulais a Gorseinon.