Heddiw, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant, Carl Sargeant, y bydd Awdurdodau Tân ac Achub yn cael £1.8m i’w helpu i gyflawni eu dyletswyddau statudol newydd i ymateb i lifogydd.
Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet y cyhoeddiad yn ystod ymweliad â Chanolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, lle’r oedd aelodau o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cael hyfforddiant achub o ddŵr, ac yn dangos sut mae achub pobl o gerbydau sydd mewn dŵr, ac achub drwy ddefnyddio sled llawn aer neu gwch dŵr cyflym.
Er bod Awdurdodau Tân ac Achub eisoes yn ymateb i ddigwyddiadau sy’n ymwneud ag achub o ddŵr mewndirol neu lifogydd, gan ddefnyddio eu pwerau a’u hadnoddau cyffredinol presennol, nid yw’n ofynnol iddynt wneud hynny. Mae Ysgrifennydd y Cabinet felly wedi llofnodi Gorchymyn sy’n rhoi dyletswydd statudol ar dri Awdurdod Tân ac Achub Cymru i ymateb i ddigwyddiadau o’r fath.
Er mwyn hwyluso’r gwaith o gyflwyno’r ddyletswydd newydd, bydd cyllid ar gael i brynu cyfarpar newydd ar gyfer achub o ddŵr ac ymateb i lifogydd, yn lle’r hen gyfarpar, ac i brynu ail bwmp cyfeintiau mawr yn y Gogledd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Dw i wedi gweld sgiliau achub o ddŵr yma heddiw sy’n dangos yn glir ymroddiad a phroffesiynoldeb ein diffoddwyr tân. O ganlyniad i’r gwaith rhagorol, rydyn ni wedi bod yn hynod lwyddiannus yn ein hymdrechion i leihau’r perygl o dân yng Nghymru.
“Mae llifogydd yn gallu bod yr un mor beryglus â thân, a chael effeithiau sy’n fwy pellgyrhaeddol. Maen nhw’n gallu dinistrio cymunedau cyfan, gan ddod â pherygl o anafiadau i lawer o bobl, yn ogystal â difrodi eiddo a’r amgylchedd. Mae angen inni fod yn siŵr y bydd ein gwasanaethau tân yn barod i ymateb – ac mae’n bwysig bod ein diffoddwyr tân yn gwybod beth yn union sy’n cael ei ddisgwyl ganddyn nhw. Dyna pam dw i wedi rhoi dyletswydd newydd ar ein gwasanaethau tân ac achub sy’n gofyn iddyn nhw ymateb i ddigwyddiadau sy’n ymwneud â llifogydd neu achub o ddŵr lle mae perygl uniongyrchol y gallai pobl farw neu gael eu hanafu.
“Mae’n rhaid bod gan ein diffoddwyr tân y cyfarpar i wneud hyn mewn modd diogel ac effeithiol. Felly, mae’n bleser gen i gyhoeddi y bydd £1.8 miliwn ychwanegol ar gael yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol a’r flwyddyn ariannol nesaf i wella ac i ddiweddaru’r cychod, y pympiau, a’r offer amddiffyn y mae eu hangen arnyn nhw.”
Dywedodd Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Huw Jakeway:
“Roedd yn bleser croesawu Ysgrifennydd y Cabinet i Ganolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd er mwyn iddo gael gweld ein criwiau ymroddgar wrth eu gwaith, fel rhan o’u hyfforddiant parhaus ar gyfer achub o ddŵr. Fel Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru, mae erioed wedi bod yn flaenoriaeth inni gadw ein cymunedau a’n diffoddwyr tân yn ddiogel pan fyddan nhw mewn dŵr neu’n ymwneud â dŵr, a bydd y cyllid newydd i brynu cyfarpar, dros y ddwy flynedd ariannol nesaf, yn ein helpu i gynnig gwasanaeth o’r safon orau.”