Heddiw, mae'r Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant wedi amlinellu cynlluniau i sefydlu dull newydd o greu cymunedau cryf.
Mae'r dull yn canolbwyntio ar gyflogaeth, y blynyddoedd cynnar a grymuso, a bydd yn cael gwared ar y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf gam wrth gam.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Rydyn ni wedi gwrando'n astud ar filoedd o bobl sydd wedi bod yn rhan o raglen Cymunedau yn Gyntaf, neu wedi gweithio yn y rhaglen. Mae'n amlwg bod Cymunedau yn Gyntaf wedi bod yn llwyddiant o ran ei heffaith ar nifer o unigolion, ond nid yw wedi cael effaith ar lefelau tlodi yn gyffredinol yn y cymunedau hyn - sy'n parhau i fod yn uchel yn gyson.
"Rydyn ni fel Llywodraeth yn glir fod yn rhaid i ni gamu ymlaen i gyfnod newydd yn ein brwydr yn erbyn tlodi yng Nghymru. Byddwn yn parhau i roi cymorth i'r rheini sydd â mwyaf ei angen, ac ni fydd hynny'n dod i ben gyda'r rhaglen hon. Yn wir, ein nod yw sicrhau ein bod yn gwneud hyd y oed mwy o ymdrech i roi'r hyn sydd ei angen ar bobl i sicrhau eu bod yn cael cyfran fwy teg o gyfoeth ein gwlad. Rhaid i'r addewid am swyddi da a diogel fod wrth wraidd hyn.
"Mae angen cael dull newydd sy'n mynd i'r afael ag achosion craidd tlodi. Byddwn yn datblygu dull trawslywodraethol ar gyfer Cymru gyfan, a fydd yn rhoi mwy o sylw i helpu pobl i gael swyddi, cynnig y dechrau gorau mewn bywyd i blant, a sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed wrth gynllunio gwasanaethau lleol.”
Bydd cyllid ar lefel o 70% o gyfanswm yr arian presennol yn cael ei ddarparu i raglen Cymunedau yn Gyntaf tan fis Mawrth 2018. Bydd cronfa etifeddol o £6m y flwyddyn yn cael ei chyflwyno ym mis Ebrill 2018, a fydd yn galluogi rhai o brosiectau mwyaf effeithiol y rhaglen i barhau.
Yn ogystal â hyn, bydd y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn cael £4m y flwyddyn yn ychwanegol o 2017/18 ymlaen, a rhoddir blaenoriaeth i ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, i helpu i amddiffyn asedau cymunedol gwerthfawr fel canolfannau cymunedol.
Bydd grant newydd gwerth £12m y flwyddyn hefyd yn cael ei lansio, i helpu'r rheini sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur. Bydd hyn yn adeiladu ar y llwyddiannau a welwyd hyd yma yn rhaglenni Cymunedau am Waith, Esgyn a PaCE, a bydd yn bwydo i Gynllun Cyflogadwyedd ehangach Llywodraeth Cymru, a arweinir gan y Gweinidog Sgiliau.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Drwy'r prosiectau hyn a phrosiectau parhaus eraill, byddwn yn parhau i gyfrannu cyfanswm o dros £25m y flwyddyn yn uniongyrchol i gymunedau difreintiedig. Ni ddylid edrych ar y ffigur hwn ar ei ben ei hun. Ar draws Llywodraeth Cymru, mae buddsoddiad cynyddol yn cael ei wneud mewn amrywiaeth o fentrau sy'n hanfodol i atal a lliniaru tlodi. Mae’r rhain yn cynnwys cynyddu ein buddsoddiad mewn prentisiaethau i dros £126m, a buddsoddi mwy na £93m drwy'r Grant Amddifadedd Disgyblion yn 2017-18 i helpu i gau'r bwlch mewn cyrhaeddiad ymhlith plant difreintiedig. Yn ogystal â hynny, rydyn ni'n sefydlu tasglu ar gyfer y Cymoedd ac yn creu metros yn y Gogledd a'r De."
Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn rhaglenni Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf - dwy raglen sy'n rhoi cymorth ymarferol i filoedd o deuluoedd a'u plant ledled y wlad. Ac rydym eisoes wedi cyhoeddi y bydd Parthau Plant a chanolfan newydd i gefnogi'r rheini sy'n cael Profiadau Niweidiol mewn Plentyndod (ACE) yn cael eu datblygu. Bydd y cymorth ar gyfer y rhaglen Streetgames, sy'n annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol, a chymorth ar gyfer y Ganolfan Cyngor ar Bopeth, yn parhau.
Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Mae buddsoddi yn ein plant yn fuddsoddiad hirdymor. Dyma'r ffordd mwyaf cynaliadwy o adeiladu dyfodol llewyrchus.
"Mae’n galonogol gweld yr ymateb cadarnhaol dros ben sydd wedi bod i’r syniad o ddatblygu Parthau Plant a chanolfannau ACE, i helpu sefydliadau, cymunedau ac unigolion ledled Cymru i fynd i'r afael ag achosion o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, sy'n cael effaith mor ddinistriol ar fywydau plant.
"Bydd y mentrau hyn, ynghyd â'n buddsoddiad parhaus yn y rhaglenni llwyddiannus, Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf, yn sicrhau bod cymorth cynhwysol ar gael i blant wrth iddynt dyfu.
"Mae creu cymunedau cryf yn waith i Lywodraeth Cymru gyfan. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau ffyniant i bawb, economi gref sy'n creu cyfleoedd am swyddi cynaliadwy, o ansawdd sydd ar gael i bawb.
"Gyda'n gilydd, gallwn greu'r cymunedau cryf a diogel rydyn ni i gyd am eu gweld. A byddwn yn parhau i weithio gyda chymunedau a rhanddeiliaid wrth inni symud ymlaen.
"Nid yw newid byth yn hawdd. Ond ni allwn anwybyddu'r heriau a wynebwn - rhai newydd, a rhai sydd wedi bodoli ers blynyddoedd. Rhaid inni gael y dewrder i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ymateb. Rydw i, a'm holl gydweithwyr yn y Llywodraeth, yn benderfynol o wneud hynny."