Heddiw, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, y bydd adolygiad yn cael ei gynnal o'r ffordd y mae gwasanaethau'n cydweithio i sicrhau bod cymunedau yng Nghymru yn ddiogel.
Wrth annerch Aelodau'r Cynulliad yn y Senedd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod yn bwriadu sefydlu Grŵp Trosolwg i adolygu'r trefniadau presennol ar gyfer diogelwch cymunedol, ac i ddatblygu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer cymunedau mwy diogel yng Nghymru.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Mae diogelwch ein cymunedau wedi bod yn flaenoriaeth i ni erioed. Dyna pam rydym yn cefnogi ein gwasanaethau brys ac asiantaethau eraill i sicrhau bod ganddynt y gallu i'n diogelu rhag y peryglon hyn.
“Ond mae'r agenda, o ran ei natur, yn gymhleth. Mae deddfwriaeth a pholisïau yn cynnwys cyfrifoldebau datganoledig, yn ogystal â rhai sydd heb eu datganoli. Mae dwy flynedd ar bymtheg o ddatganoli wedi arwain, o angenrheidrwydd, at wahaniaethau rhwng ein dull ni o ddatblygu polisïau a dull Llywodraeth y DU. Mae'r newidiadau hyn wedi creu cyfleoedd newydd, ond nid ydynt i gyd wedi symleiddio'r cyd-destun rydym yn gweithio ynddo.
“Ddiwedd y llynedd, cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad ar Ddiogelwch Cymunedol yng Nghymru. Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu cymhlethdodau'r agenda, ac yn tynnu sylw at enghreifftiau o'r gwaith cadarnhaol sy'n cael ei wneud yng Nghymru. Serch hynny, fe wnaeth yr adroddiad godi nifer o faterion hefyd. Rwy'n credu bod yr adroddiad yn rhoi cyfle gwerthfawr i ni bwyso a mesur y sefyllfa.
“Gyda chytundeb y partneriaid allweddol hynny sy'n gallu ysgogi newid, a gan weithio ochr yn ochr â nhw, rwy'n sefydlu Grŵp Trosolwg i adolygu'r trefniadau presennol. Bydd yn helpu i ddatblygu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer cymunedau mwy diogel yng Nghymru, sy'n adeiladu ar y gwaith ardderchog sydd wedi cael ei wneud eisoes, neu sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd. Bydd yr adolygiad hwn hefyd yn ystyried argymhellion gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Rwyf am weld adolygiad uchelgeisiol sy'n datblygu gweledigaeth glir ar gyfer diogelwch cymunedol a fydd yn gadarn, yn berthnasol ac yn ymatebol. Gweledigaeth ar gyfer y tymor hir fydd hon.”