Heddiw, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cymunedau, Carl Sargeant £29,408,232 o gyllid Llywodraeth Cymru a'r UE i ymestyn y rhaglen Cymunedau am Waith yng Nghymru tan 2020.
Mae'r rhaglen Cymunedau am Waith, a lansiwyd ym mis Mai 2015 ac a ddarperir mewn partneriaeth â'r Adran Gwaith a Phensiynau drwy'r Ganolfan Byd Gwaith, yn wasanaeth cynghori yn y gymuned a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Mae'n gweithio gyda phobl o'r cymunedau mwyaf difreintiedig ar hyd a lled Cymru i gynyddu cyflogadwyedd pobl ifanc 16-24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, ac oedolion sy'n anweithgar yn economaidd ac yn ddi-waith ers cyfnod hir sy'n wynebu rhwystrau cymhleth i gyflogaeth.
Hyd yn hyn, mae'r rhaglen wedi helpu bron 900 o bobl i gael gwaith, bron 1,300 o bobl i gael hyfforddiant pellach a bron 100 arall i wirfoddoli.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Mae creu ffyniant economaidd yn un o'm blaenoriaethau ac mae wrth wraidd fy ngweledigaeth ar gyfer dull newydd o fynd ati i greu cymunedau cryf sydd â mynediad at swyddi a phobl sy'n meddu ar y sgiliau a'r cymorth cywir i'w llenwi.
"Cyflogaeth gynaliadwy yw'r ffordd orau allan o dlodi o hyd. Mae Cymunedau am Waith yn cefnogi'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru ac yn darparu cyfle gwirioneddol i bobl gyflawni eu dyheadau. Bydd yr arian hwn yn adeiladu ar y llwyddiant y mae'r rhaglen wedi'i ddarparu eisoes ac yn sicrhau ein bod yn defnyddio cronfeydd yr UE i'r eithaf er mwyn helpu i drechu tlodi.
"Mae'r buddsoddiad hwn yn arwydd o ymrwymiad mawr i'r rhaglen Cymunedau am Waith."