Mae Cymru yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni amcanion tlodi plant mewn nifer o feysydd, ond mae angen gwneud mwy o hyd, meddai'r Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant heddiw.
Wrth annerch Aelodau'r Cynulliad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Yn ein Strategaeth Tlodi Plant 2015, nodwyd pum maes lle gallwn wneud mwy i helpu i fynd i'r afael â thlodi plant. Mae cynnydd wedi cael ei wneud ym mhob un o'r meysydd hyn.
"Mae Cyflogaeth yng Nghymru yn agos at ei lefel uchaf erioed, ac mae nifer y plant sy'n byw ar aelwydydd di-waith yn is nag erioed. Rydym wedi lleihau'r bwlch mewn cyrhaeddiad addysgol rhwng disgyblion sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim a'r rheini nad ydynt yn gymwys, ac wedi rhagori ar ein targed o ran disgyblion sy'n cyrraedd y lefel ddisgwyliedig yn y Cyfnod Sylfaen.
"Fodd bynnag, gwyddom fod angen inni wneud mwy. Yn 2015, roedd dal i fod 72,000 o blant yn byw ar aelwydydd di-waith, ac mae tlodi mewn gwaith yn broblem sy'n tyfu."
Amlinellodd Mr Sargeant rai o'r heriau, a dywedodd fod angen ffordd newydd o fynd i'r afael â'r problemau hyn:
"Mae ein hymrwymiad i fynd i'r afael â thlodi plant yn un cadarn. Fodd bynnag, mae penderfyniadau Llywodraeth y DU a’r camau y mae wedi'u cymryd mewn perthynas â diwygio lles, ynghyd â'r newidiadau yn y farchnad lafur sy'n chwarae rhan fawr yn y cynnydd mewn tlodi a ragwelir, yn golygu na fyddwn yn gallu gwireddu ein huchelgais o gael gwared ar dlodi plant erbyn 2020.
"Nid oes gan Lywodraeth Cymru y pwerau ariannol a pholisi sylfaenol, yn arbennig o ran y system les, sydd eu hangen i'n galluogi ni i wneud y newidiadau sylweddol angenrheidiol.
"Felly, yr unig ffordd o fynd i'r afael â'r problemau rydyn ni'n eu hwynebu yw drwy ffyrdd newydd o weithio. Gan ystyried y pwysau sydd ar ein hadnoddau a chyllidebau sy'n lleihau, mae angen inni ganolbwyntio ar ble y gallwn gael y mwyaf o effaith o fewn y pwerau sydd gennym.
Amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet ei weledigaeth ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant yn y dyfodol. Dywedodd:
"Rwy'n credu'n gryf ei bod yn amser cael dull gweithredu newydd, ar draws y llywodraeth gyfan, i feithrin cymunedau cryf er mwyn ein helpu i gyflawni'r agenda hon.
"Mae gwella lles a ffyniant economaidd yn hanfodol er mwyn gwella canlyniadau i blant sy'n agored i niwed, gan gynnwys y rheini sy'n byw mewn tlodi. Bydd canolbwyntio ar dri maes, sef y blynyddoedd cynnar, cyflogaeth a grymuso, yn ein helpu i ddatblygu cymunedau sy'n gallu cynnig y dechrau gorau mewn bywyd i blant; cymunedau sy'n barod i weithio, ac yn gallu gweithio; a chymunedau sydd wedi'u grymuso ac yn ymgysylltu, yn ogystal â bod yn ddiogel ac yn gryf.
"Mae ein fframwaith statudol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru yn cael ei ddarparu drwy Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Ond mae gennym hefyd y cyfle i ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i gefnogi dull cenedlaethol, Cymru gyfan o geisio lleihau anghydraddoldebau, sicrhau ein bod yn cael yr effaith fwyaf bosibl mewn cyfnod o ansicrwydd gyda'r dulliau gweithredu sydd ar gael inni. O dan y Ddeddf, bydd set o 46 o Ddangosyddion Cenedlaethol Cymru yn mesur y cynnydd a wneir yn genedlaethol tuag at gyflawni'r saith nod llesiant. Bydd cynnydd o ran mynd i'r afael â thlodi plant yn cael ei asesu gan ddefnyddio'r Dangosyddion Cenedlaethol lle gall Llywodraeth Cymru gael yr effaith fwyaf.
"Fel yr ydym wedi dweud o'r blaen, ni allwn drechu tlodi ar ein pennau ein hunain. Dim ond drwy gydweithio y gallwn obeithio cyrraedd y lefel o newid ar y cyflymder angenrheidiol er mwyn lleihau tlodi plant yng Nghymru. Fel rhan o hyn, rydw i wedi gwahodd sefydliadau i ymuno â ni i ddatblygu Parthau Plant i helpu i wella cyfleoedd i blant a phobl ifanc sy'n byw yng Nghymru.
"Mae angen inni roi cymorth i deuluoedd pan fo mwyaf ei angen arnynt, a galluogi gwasanaethau i ymateb i'r heriau sy'n gysylltiedig â'r byd modern. Ein nod yw gwneud gwahaniaeth i bawb, ar bob adeg yn eu bywydau, nawr ac yn y tymor hir."