Heddiw, bydd yr Ysgrifennydd dros Gymunedau yn amlinellu ei weledigaeth am ffordd newydd o fynd ati i adeiladu cymunedau cadarn, ac yn gwahodd eraill i gyfrannu at y drafodaeth.
Wrth siarad mewn digwyddiad a gynhelir gan gwmni Positif Politics ym Mae Caerdydd, bydd yr Ysgrifennydd dros Gymunedau yn dweud wrth y gynulleidfa:
“Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o greu mwy o swyddi, a rheini'n rhai gwell, drwy sicrhau economi sy'n gryfach ac yn decach. Rydym wedi ymrwymo i wella a diwygio gwasanaethau cyhoeddus ac adeiladu gwlad sy'n unedig, yn gysylltiedig ac yn gynaliadwy. Rydym am greu cymunedau sy'n rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant, cymunedau sy'n barod i weithio ac yn gallu gweithio, a chymunedau sy’n gwrando ar leisiau pobl leol wrth wneud penderfyniadau.”
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cymryd rhan yn y digwyddiad fel rhan o'r gwaith ymgysylltu parhaus ar adeiladu cymunedau cadarn. Bydd yn dweud:
"Bydd gan nifer ohonoch bryderon am ddyfodol Cymunedau yn Gyntaf, gan fy mod yn ystyried cael gwared ar y rhaglen gam wrth gam. Lansiwyd y rhaglen 15 mlynedd yn ôl, ac mae wedi helpu nifer o bobl yn rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod hwnnw, mae ein heconomi a'n cymdeithas wedi gweld newidiadau enfawr.
"Ni fyddwn yn gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch Cymunedau yn Gyntaf hyd nes ein bod wedi cael trafodaeth lawn gyda rhanddeiliaid a'r cyhoedd am y ffordd orau ymlaen. Mae'r digwyddiad heno yn gyfle pwysig imi drafod â chi a chasglu eich safbwyntiau. Rydym eisoes wedi cael ymateb da i'n holiadur #TrafodCymunedau gyda thros 230 o ymatebion yn yr wythnos gyntaf, ond rwy'n eich annog i gymryd rhan a'n helpu i gyrraedd cynifer o bobl â phosibl er mwyn casglu eu barn."
"Mae angen inni ystyried o ddifri beth allwn ni wneud gyda'n gilydd i feithrin cymunedau cryfach a chadarnach - cymunedau sy’n gallu ffynnu nawr ac yn y dyfodol."