Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cymunedau Carl Sargeant annog pobl ledled Cymru heddiw i fod yn rhan o’r ymdrech i ddatblygu ffordd newydd Llywodraeth Cymru o fynd at i greu cymunedau cryf.
Yn gynharach yn ystod y mis, cyhoeddodd Mr Sargeant ei fod yn ystyried dileu’n raddol y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf tra byddai’r gwaith o fynd ati i ddatblygu rhaglen newydd yn canolbwyntio ar dri maes blaenoriaeth sef cyflogaeth, y blynyddoedd cynnar a grymuso, yn mynd yn ei flaen. Cyfeiriodd hefyd at ei fwriad o drafod â chymunedau i edrych o’r newydd ar sut y gall Llywodraeth Cymru eu cefnogi.
Wrth lansio holiadur ar-lein heddiw dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet:
“Mae Llywodraeth Cymru’n benderfynol o gynnig mwy o swyddi a gwell swyddi drwy greu economi gryfach a thecach. Rydyn ni wedi ymrwymo i wella a diwygio gwasanaethau cyhoeddus a chreu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy. Rydyn ni am greu cymunedau sy’n cynnig i blant y dechreuad gorau posibl mewn bywyd, cymunedau sy’n barod ac yn alluog i weithio a chymunedau lle bo lleisiau’r bobl leol yn cael eu clywed yn glir pan fo penderfyniadau’n cael eu gwneud.
“Rydyn ni’n awyddus i glywed beth yw barn cynifer o bobl ag sy’n bosib am y ffordd newydd o fynd ati i greu cymunedau cryf ar draws Cymru a’u cynorthwyo a’u galluogi i ffynnu.”
Yn ogystal â gofyn am eu barn am sut y gall y blaenoriaethau hyn arwain at greu cymunedau mwy ffyniannus a chryfach, byddwn hefyd yn gofyn am eu barn o’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf.
Ychwanegodd Mr Sargeant:
“Cafodd Cymunedau yn Gyntaf ei lansio gyntaf 15 mlynedd yn ôl ac mae wedi helpu llawer o bobl yn rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig. Yn ystod y cyfnod hwnnw, fodd bynnag, mae ein heconomi a’n cymdeithas wedi gweld newidiadau enfawr. Bydd eich barn ynghylch sut mae datblygu ffordd newydd o ymgysylltu â chymunedau a’u cefnogi a’u cryfhau, er mwyn hyrwyddo cyfleoedd i bawb, yn hanfodol. Dyma eich annog i gyd felly i fanteisio ar y cyfle i leisio barn.”
Yr holiadur ar-lein fydd y cam cyntaf mewn proses fwy cynhwysfawr o ymgysylltu â chymunedau a bydd trefniadau hefyd yn cael eu gwneud i gynnal cyfarfodydd cyhoeddus a chyfarfodydd â grwpiau cymunedol ac i weithio â phawb sy’n darparu’r gwasanaethau hynny.