Bu Tasglu newydd sy'n edrych ar sut y caiff buddsoddiadau eu gwneud mewn ffordd gydlynol a strategol yn y Cymoedd, yn cyfarfod am y tro cyntaf.
Bu Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates a'r Gweinidog Sgiliau, Julie James yn cyfarfod ag aelodau allanol newydd y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De.
Daeth Tasglu'r Cymoedd, dan gadeiryddiaeth Alun Davies, ynghyd ym Mharc Treftadaeth y Rhondda i drafod ei flaenoriaethau am y pum mlynedd nesaf. Aeth y Grŵp hefyd ar ei ymweliad cyhoeddus cyntaf, a hynny i Goleg y Cymoedd.
Yno, cyfarfu'r aelodau â staff, myfyrwyr, prentisiaid a chyflogwyr o'r ardal i ddysgu mwy am y rôl bwysig y gall sefydliadau fel hyn ei chwarae i wella sgiliau a chyflogadwyedd y gweithlu lleol.
Dyma aelodau allanol y Tasglu:
- Ann Beynon, Cadeirydd Bwrdd Dinas-Ranbarth Caerdydd
- Andrew Diplock, Cyfarwyddwr Strategaeth a Llywodraethu, Inprova Energy
- Judith Evans, Pennaeth, Coleg y Cymoedd
- Dr Chris Jones, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
- Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol, Ochr yr Undebau Llafur
- Y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd y Cyngor, Rhondda Cynon Taf
- Yr Athro Brian Morgan, Prifysgol Caerdydd.
Dywedodd Alun Davies,
"Rwy'n hynod o ddiolchgar i aelodau allanol y Tasglu am gytuno i ymuno â ni ar y dasg bwysig hon. Cawsant eu recriwtio nid yn unig am eu harbenigedd, ond hefyd gan eu bod yn byw neu'n gweithio yn y Cymoedd, a'u bod yn deall diwylliant a gwerthoedd yr ardal a'r problemau y mae'r bobl yn y cymunedau hyn yn eu hwynebu.
"Mae cynyddu cyflogadwyedd, gwella sgiliau a chefnogi pobl i gael swyddi yn gallu chwarae rhan sylfaenol wrth helpu aelwydydd incwm isel ac aelwydydd di-waith yng nghymunedau'r Cymoedd. Mae'n hanfodol bod sgiliau pobl leol yn cyd-fynd â'r rheini sydd eu hangen ar fusnesau a buddsoddwyr lleol.
"Mae sefydliadau fel Coleg y Cymoedd yn chwarae rhan hollbwysig wrth gyflawni'r amcanion hyn, a dyna pam yr estynnais wahoddiad i'r Pennaeth, Judith Evans, fod yn aelod o'r Tasglu. Drwy siarad â Judith, yn ogystal â'r dysgwyr a'r cyflogwyr yn y Coleg, rydym wedi cael llawer i gnoi cul arno wrth i ni drefnu ein blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol."
Dywedodd Ken Skates,
"Er ein bod ni wedi cymryd camau pwysig yng Nghymru i leihau diweithdra a nifer y bobl sy’n byw mewn aelwydydd di-waith, mae rhannau o’r Cymoedd yn parhau â lefelau uchel o anweithgarwch economaidd a diweithdra. Mae'n rhaid i hyn newid.
“Rwy'n falch dros ben cael cymryd rhan, gan y bydd y Tasglu yn cydweithio’n agos â rhaglenni Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Dinas-Ranbarth Bae Abertawe ac yn ceisio harneisio potensial mentrau newydd fel Metro a thirlun unigryw ac amrywiol y Cymoedd i wneud yr ardal yn gyrchfan i dwristiaid.”
Dywedodd Julie James,
"Mae canolbwyntio ar godi lefel sgiliau a symud pobl at waith yn hanfodol wrth greu yr economi o gyflogau uchel a sgiliau medrus rydym ei eisiau yng Nghymru. Os yw pobl yn meddu ar sgiliau da, mae eu siawns o leihau cyfnodau o ddiweithdra a chadw swyddi yn gwella.
"Mae gan y Tasglu aelodau profiadol a brwd, ac mae pawb yn teimlo'n ffyddiog iawn am yr hyn y gallwn ei gyflawni."
Cafodd amrywiaeth o arbenigwyr, gan gynnwys cynrychiolwyr o'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), What Works Centre for Wellbeing a Sefydliad Bevan, hefyd eu gwahodd i ddod i'r cyfarfod cyntaf, a byddant yn rhoi tystiolaeth i lywio'r broses o ddatblygu blaenoriaethau'r Tasglu.
Bydd y Tasglu yn dysgu gan raglenni adfywio blaenorol yng Nghymru, ac ymhellach, i ddatblygu dull newydd a fydd yn cydlynu ac yn targedu anghenion y cymunedau hyn.