Heddiw, bydd Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn ymweld â Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.
Bydd yn mynd i dderbyniad i ddathlu’r gwaith sy’n cael ei wneud ar goedwig i nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru yn Ffos Las, Sir Caerfyrddin.
Hyd yma, mae tua 12,000 o goed wedi cael eu plannu ac mae 14 o ysgolion cynradd lleol wedi bod yn dysgu am y rhyfel ac yn plannu coed er mwyn iddyn nhw allu talu teyrnged hefyd i’r rheini â fu’n rhan o’r rhyfel. Yn ddiweddar, fe blannodd Y Gwarchodlu Cymreig 2,000 o goed i goffáu Brwydr y Somme.
Dywedodd Carl Sargeant:
“Mae’n bleser gennyf fynd i’r derbyniad heddiw i ddathlu’r gwaith sy’n cael ei wneud yn y goedwig yn Ffos Las i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru. Mae hwn yn brosiect pwysig sy’n rhoi cyfle i’r gymuned ddod ynghyd ac yn rhoi cyfle i’r genhedlaeth iau werthfawrogi’r aberth a wnaeth y dynion a’r menywod i amddiffyn ein rhyddid.
"Rwy’n falch iawn fy mod yn cael cyfle i ymweld â’r Sioe Frenhinol ac yn cael cyfle i gwrdd â sefydliadau sy’n helpu pobl ifanc a chymunedau ledled Cymru.
“Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn datgan yn glir bod llwyddiant unrhyw gymdeithas yn ddibynnol ar bob rhan ohoni’n cyd-weithio. Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â sefydliadau sy’n chwarae rôl bwysig iawn yn eu cymunedau.”